Cael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch gael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth allwch chi ei gael a’r nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Bydd rheolau Pensiwn y Wladwriaeth yn newid ar 6 Ebrill 2016. Darganfyddwch os fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth presennol neu’r Pensiwn y Wladwriaeth newydd.

Defnyddiwch y gyfrifianell i ddarganfod pryd fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw bryd ar ôl 30 diwrnod

I gael cyfriflen gallwch un ai:

Os ydych o dan 55 oed, gallwch hefyd cael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol efallai y gallwch ei gael.

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn pen 30 diwrnod

Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael cyfriflen os:

  • rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn barod
  • byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth mewn 30 diwrnod neu lai

Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol yn Ynys Manaw

Nid yw Ynys Manaw yn cyflwyno Pensiwn newydd y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2016 , felly efallai y bydd eich datganiad yn anghywir os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
  • ydych wedi gweithio a thalu Yswiriant Gwladol yn Ynys Manaw ar unrhyw adeg

Cysylltwch â’r Canolfan Pensiwn y Dyfodol os oes angen mwy o wybodaeth.