Skip to main content

Gwirio sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn 5 Hydref 2026 os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych wedi cyflwyno Ffurflen Dreth o’r blaen
  • rydych wedi cofrestru o’r blaen, ond nid oedd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025

Dechreuodd y flwyddyn dreth flaenorol ar 6 Ebrill 2025 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2026.

Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os byddwch yn rhoi gwybod i CThEF ar ôl 5 Hydref 2026, gallech gael cosb.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych eisoes wedi cofrestru

Os ydych yn aros am Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Cyn i chi ddechrau

Gwiriwch a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth cyn cofrestru.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad o’r blaen, ond ni wnaethoch anfon Ffurflen Dreth y llynedd, mae’n bosibl y bydd angen i chi ailactifadu’ch cyfrif Hunanasesiad. Bydd y gwasanaeth yn esbonio sut i wneud hyn.

Dechrau nawr