Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig
Pa gofnodion i’w cadw
Bydd angen i chi gadw cofnodion o’r canlynol:
-
yr holl werthiannau ac incwm
-
yr holl dreuliau busnes
-
cofnodion TAW os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW
-
cofnodion TWE os ydych yn cyflogi pobl
-
cofnodion am eich incwm personol (yn agor tudalen Saesneg)
-
eich grantiau, os ydych wedi gwneud hawliad drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth - gwiriwch faint a dalwyd i chi os gwnaethoch hawliad
Pam fod angen i chi gadw cofnodion
Nid oes angen i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, ond bydd angen i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol:
-
cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth
-
eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt
Mae’n rhaid i chi sicrhau’r canlynol:
-
bod eich cofnodion yn gywir
-
eich bod yn gallu adnabod trafodion busnes
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio cyfrif banc personol neu gyfrif banc busnes ar gyfer eich busnes. Gwiriwch gyda’ch banc pa fath o gyfrif y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer trafodion busnes.
Cadw tystiolaeth
Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:
-
pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc
-
cyfriflenni banc, bonion llyfr siec
-
anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol
Yn ogystal â’r cofnodion safonol, bydd angen i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:
-
yr hyn sy’n ddyledus i chi ond nad ydych wedi’i gael eto
-
yr hyn rydych wedi ymrwymo i’w wario ond nad ydych wedi’i dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto
-
gwerth y stoc a’r gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu
-
eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn
-
faint yr ydych wedi’i fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn
-
faint o arian yr ydych wedi’i dynnu at eich defnydd eich hun