Herio penderfyniad budd-dal (ailystyriaeth orfodol)

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i ofyn am ailystyriaeth orfodol

Cysylltwch â’r swyddfa fudd-daliadau a roddodd y penderfyniad i chi. Gallwch gysylltu â nhw:

Mae’r manylion cyswllt ar eich llythyr penderfyniad.

Fel arfer mae angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad. Os ydych yn ysgrifennu, rhaid i’r llythyr neu’r ffurflen gyrraedd erbyn hynny.

Os nad yw’ch llythyr penderfyniad ganddoch, cysylltwch â’r swyddfa lle gwnaethoch gais am y budd-dal.

Beth mae angen i chi eu darparu 

Pan fyddwch yn gofyn am ailystyriaeth orfodol, mae angen i chi roi:

  • dyddiad y penderfyniad budd-daliadau gwreiddiol
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Esboniwch pa ran o’r penderfyniad sy’n anghywir a pham - gallwch anfon tystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau.

Os ydych yn anfon tystiolaeth

Mae angen i unrhyw dystiolaeth a anfonwch gefnogi eich rhesymau dros pam fod y penderfyniad yn anghywir. Er enghraifft, gallai fod yn:

  • dystiolaeth feddygol newydd
  • adroddiadau neu gynlluniau gofal gan arbenigwyr, therapyddion neu nyrsys
  • cyfriflenni banc neu slipiau cyflog

Dylech ond cynnwys tystiolaeth nad ydych wedi ei hanfon eisoes.

Ysgrifennwch eich enw llawn, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol ar frig pob darn o dystiolaeth a’i anfon i’r swyddfa fudd-daliadau lle gwnaethoch gais am eich budd-dal.

Ni allwch hawlio am gost unrhyw dystiolaeth rydych yn talu amdani.

Peidiwch â chynnwys:

  • gwybodaeth gyffredinol am eich cyflwr - er enghraifft taflenni ffeithiau, tystysgrifau meddygol neu nodiadau salwch
  • cardiau apwyntiad neu lythyrau am apwyntiadau meddygol, oni bai na allech wneud cais am eich budd-dal oherwydd eich bod yn yr apwyntiad
  • llythyrau am brofion rydych chi i fod i’w cael
  • tocynnau bws neu drên i brofi eich bod wedi gwneud taith

Os nad ydych yn siwr pa dystiolaeth i’w hanfon, darllenwch y canllawiau ar gyfer y ffurflen ar gyfer gofyn am ailystyriaeth orfodol. Gallwch hefyd ffonio’r rhif ffôn ar eich llythyr penderfyniad.

Gwneud cais ar ôl mis

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol ar ôl hyn ond rhaid iddo fod am reswm da, er enghraifft os ydych wedi bod yn yr ysbyty neu wedi cael profedigaeth. Rhaid i chi egluro pam fod eich cais yn hwyr.

Ffoniwch y rhif ffôn ar eich llythyr penderfyniad yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd y swyddfa fudd-daliadau a roddodd y penderfyniad budd-dal gwreiddiol i chi yn ei ailystyried.

Pan fyddant wedi ei ailystyried,  byddwch yn cael llythyr o’r enw ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’ yn dweud wrthych a ydynt wedi newid y penderfyniad.

Bydd yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol yn esbonio’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a’r dystiolaeth y seiliwyd ef arni.