Canllawiau

Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: archwiliadau

Gwybodaeth i ladd-dai am yr hyn y gallant ei ddisgwyl yn ystod archwiliadau ar gyfer y Cynllun Graddio Carcasau Moch.

Applies to England and Wales

Bydd arolygwyr o Arolygiaeth Da Byw a Chig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn ymweld â lladd-dai y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch.

Byddant yn ymweld â lladd-dai o leiaf ddwywaith bob tri mis ac ni fyddant yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o’u hymweliadau.

Beth fydd yr arolygydd yn ei wneud

Bydd yr arolygydd yn sicrhau bod y lladd-dy yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau’r cynllun.

Bydd yn gwneud y canlynol:

  • ailbwyso carcasau er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofnodi’r pwysau yn gywir
  • archwilio carcasau er mwyn cadarnhau eu bod wedi’u trin yn unol â’r fanyleb a ddefnyddir ac wedi’u marcio a/neu wedi’u dogfennu’n gywir
  • defnyddio ei brofiedydd ei hun er mwyn cadarnhau bod y cig wedi’i raddio’n gywir
  • archwilio cofnodion er mwyn sicrhau eich bod yn cofnodi’r wybodaeth gywir ac yn eu cadw am y cyfnod priodol o amser

Os bydd yr arolygydd yn dod o hyd i unrhyw broblemau, gall wneud ymweliadau dilynol a gall RPA gymryd camau gorfodi yn eich erbyn am beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau graddio carcasau moch.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Fel gweithredwr lladd-dy, mae’n rhaid i chi roi pob cymorth a gwybodaeth resymol sydd eu hangen ar yr arolygwyr i gynnal yr archwiliad.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod cofnodion ar gael i’w harchwilio.

Ni ddylech wrthod mynediad i’ch safle mewn perthynas ag archwiliad nac atal arolygydd rhag cyflawni ei waith (gan gynnwys drwy roi gwybodaeth ffug). Os byddwch yn gwneud hynny, rydych yn cyflawni trosedd o dan Ran 5 o Reoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Lloegr) 2010 neu Reoliadau Dosbarthu Carcasau Cig Eidion a Moch (Cymru) 2011, a allai arwain yn uniongyrchol at erlyniad, ac o bosibl ddirwy neu ddedfryd o garchar.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 November 2018 + show all updates
  1. Text reviewed and updated

  2. First published.