Canllawiau

Y Cynllun Graddio Carcasau Moch: cadw cofnodion

Sut i brofi bod eich lladd-dy yn cydymffurfio â'r Cynllun Graddio Carcasau Moch.

Applies to England and Wales

Mae’n rhaid i ladd-dai sy’n gorfod cydymffurfio â’r Cynllun Graddio Carcasau Moch gadw cofnodion sy’n profi eu bod wedi cydymffurfio â’r rheolau.

Yr hyn y dylech ei gofnodi

Mae’n rhaid i chi gadw, o leiaf, y cofnodion canlynol ar gyfer pob carcas:

  • canlyniadau’r broses ddosbarthu
  • rhif cymeradwyo’r lladd-dy
  • rhif lladd yr anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i pennwyd gan y gweithredwr
  • y dyddiad lladd
  • pwysau cynnes y carcas ynghyd â chofnod o’r canlynol:
    • unrhyw addasiad a wnaed ar gyfer pwysau carcas oer
    • unrhyw gyfernod a ddefnyddiwyd
  • faint o gig coch y mae’r carcas yn ei gynnwys
  • p’un a oedd y tafod, gwêr yr arennau, yr arennau neu’r diaffram ynghlwm wrth y carcas neu a oeddent wedi’u tynnu ymaith
  • enw a llofnod yr unigolyn a ddosbarthodd y carcas

Pa mor hir y mae’n rhaid cadw’r cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 12 mis calendr o ddiwedd y flwyddyn galendr y cawsant eu gwneud.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014