Pryd mae angen trwydded arnoch

Rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein yn yr ardaloedd canlynol:

  • Lloegr (ac eithrio afon Tuedd)
  • Cymru
  • rhanbarth afon Border Esk, gan gynnwys y rhannau o’r afon sydd yn yr Alban

Mae hyn yn cynnwys os ydych chi’n pysgota ar dir preifat, fel dyfroedd clwb pysgota neu lynnoedd pysgota preifat.

Gallwch dderbyn dirwy o hyd at £2,500 os ydych yn pysgota yn yr ardaloedd hyn heb allu dangos trwydded pysgota â gwialen ddilys ar gais.

Rhaid i chi ddilyn is-ddeddfau lleol a chenedlaethol ar gyfer pysgota â gwialen (yn Saesneg) wrth bysgota mewn dŵr croyw gyda gwialen a lein yng Nghymru a Lloegr. Efallai y bydd rheolau ychwanegol mewn rhai ardaloedd - gwiriwch gyda pherchennog y tir.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer pysgota yng ngweddill yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Caniatadau eraill sydd eu hangen arnoch

Mae angen caniatâd arnoch gan berchennog y tir neu’r bysgodfa i bysgota yn yr ardal, yn ogystal â thrwydded pysgota â gwialen.

Fel arfer, y caniatâd sydd ei angen arnoch chi yw trwydded pysgota.

Er enghraifft, i bysgota mewn lociau neu goredau ar afon Tafwys mae angen trwydded pysgota mewn lociau a choredau arnoch chi.

Trwyddedau i blant a gofalwyr

Nid oes angen trwydded ar blant dan 13 oed.

Bydd angen i chi gael trwydded iau ar gyfer plant rhwng 13 a 16 oed. Mae trwyddedau iau ar gael am ddim.

Nid oes angen trwydded ar ofalwyr sy’n dod gyda rhywun sy’n pysgota oni bai eu bod nhw’n pysgota eu hunain.