Mathau o drwyddedau a therfynau gwialen

Trwydded brithyll, pysgod bras a llyswennod

Mae’r drwydded hon yn caniatáu ichi bysgota am frithyll anfudol a phob math o bysgod dŵr croyw, gan gynnwys brwyniaid a llyswennod.

Gallwch ddefnyddio eich trwydded i bysgota gyda:

  • 1 wialen ar gyfer brithyll anfudol mewn afonydd, nentydd, draeniau a chamlesi
  • hyd at 2 wialen ar gyfer brithyll anfudol mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau
  • hyd at 2 wialen ar gyfer pysgod dŵr croyw eraill

Gallwch hefyd brynu trwydded 12 mis sy’n caniatáu ichi ddefnyddio hyd at 3 gwialen ar gyfer pysgod dŵr croyw, ac eithrio brithyll anfudol.

Efallai y bydd gan y lle rydych chi’n pysgota reolau ychwanegol ynghylch faint o wialenni y gallwch chi eu defnyddio yno.

Trwydded eog a brithyll môr

Mae’r drwydded hon yn caniatáu i chi bysgota am eogiaid, brithyll anfudol a phob math o bysgod dŵr croyw, gan gynnwys brwyniaid a llyswennod.

Gallwch ddefnyddio eich trwydded i bysgota gyda’r canlynol:

  • 1 wialen ar gyfer eogiaid, brithyll môr a brithyll anfudol mewn afonydd, nentydd a chamlesi
  • hyd at 2 wialen ar gyfer eogiaid, brithyll môr a brithyll anfudol mewn cronfeydd dŵr, llynnoedd a phyllau
  • hyd at 3 gwialen ar gyfer pysgod dŵr croyw eraill

Os oes gennych drwydded ar gyfer eogiaid a brithyll y môr, rhaid i chi gyflwyno ffurflen daliad (yn Saesneg) bob blwyddyn hyd yn oed os nad ydych wedi pysgota.

Efallai y bydd gan y lle rydych chi’n pysgota reolau ychwanegol ynghylch faint o wialenni y gallwch chi eu defnyddio yno.

Gwialenni nad effeithir arnynt gan derfynau trwyddedau

Nid yw terfynau trwyddedau yn effeithio ar y gwialenni canlynol oni bai bod bachau ynghlwm wrthynt:

  • gwialenni spodiau (wedi’u defnyddio i daflu abwyd i’r dŵr)
  • gwialenni marcio (wedi’u defnyddio i farcio llinynnau)