Prynu trwydded pysgota â gwialen
Prynu trwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr
Gallwch brynu trwydded 1 diwrnod, 8 diwrnod neu 12 mis ar-lein i chi’ch hun neu rywun arall.
Gallwch brynu trwydded hyd at 30 diwrnod cyn i chi ei defnyddio.
Ffioedd
Nid oes prisiau gostyngol ar gyfer trwydded 1 diwrnod na thrwydded 8 diwrnod.
Math o drwydded | Brithyll a physgod bras (hyd at 2 wialen) | Brithyll a physgod bras (hyd at 3 wialen) | Eog a brithyll y môr | |
---|---|---|---|---|
1 diwrnod | £7.30 | Ddim ar gael | £13.50 | |
8 diwrnod | £14.70 | Ddim ar gael | £30.50 | |
12 mis | £36.80 | £55.30 | £93.10 | |
12 mis - (66 neu hŷn neu anabl) | £24.50 | £36.80 | £62.00 | |
12 mis - iau (13 i 16 oed) | Am ddim | Am ddim | Am ddim |
Mae angen gwahanol ganiatadau neu drwyddedau arnoch i bysgota yn y rhan fwyaf o’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Cymhwysedd ar gyfer trwyddedau i bobl anabl
Gallwch gael trwydded i bobl anabl am 12 mis os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- os oes gennych Fathodyn Glas neu’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer un
- os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol - unrhyw gyfradd
- os ydych chi’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl
Os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Byw i’r Anabl, bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol (neu rif cyfeirnod plentyn os ydych chi o dan 16) wrth wneud cais.
Cael trwydded ar-lein
Gallwch gael trwydded oedolyn neu drwydded iau ar-lein. Mae trwyddedau iau i blant 13 i 16 oed am ddim.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- cerdyn debyd neu gredyd
- eich rhif Yswiriant Gwladol, os ydych chi’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Byw i’r Anabl ac yn gwneud cais am drwydded 12 mis
- manylion y person arall (megis dyddiad geni), os ydych chi’n prynu ar ran rhywun arall
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Ffyrdd eraill o gael trwydded
Gallwch hefyd gael trwydded oedolyn neu drwydded iau drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd.
Gwasanaeth trwyddedau pysgota Asiantaeth yr Amgylchedd
Ffôn: 0344 800 5386
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os nad ydych wedi derbyn eich trwydded
Dylai trwyddedau a anfonir drwy’r post gyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith. Fel arfer, mae trwyddedau a anfonir dros e-bost neu neges destun yn cyrraedd o fewn awr.
Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd os nad ydych wedi derbyn eich trwydded.
Asiantaeth yr Amgylchedd
enquiries@environment-agency.gov.uk
Ffôn: 03708 506 506
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwybodaeth am gostau galwadau