Gwneud cais i drethu Cerbyd Nwyddau Trwm (HGV)

Llenwch ffurflen V85W a gwneud cais yn bersonol mewn Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae arnoch angen treth HGV ar gyfer lorïau sy’n pwyso mwy na 3.5 tunnell pan fyddant wedi’u llwytho.

Mae angen ichi gymryd llyfr log (V5CW) y cerbyd gyda chi. Gallwch wneud cais am lyfr log amnewid os nad oes un gennych.

Cyfraddau treth ar gyfer cerbydau HGV

Mae swm y dreth y mae angen ichi ei dalu yn dibynnu ar fand treth eich cerbyd ac a oes ganddo hongiad sy’n gyfeillgar i’r ffordd.