TAW ar gyfer elusennau

Sgipio cynnwys

Elusennau a chofrestru ar gyfer TAW

Fel elusen, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os yw eich trosiant trethadwy TAW yn fwy na £90,000.

Gallwch ddewis cofrestru os yw’r swm yn is na hynny, er enghraifft i adhawlio TAW ar eich cyflenwadau.

Os ydych yn ysgol breifat sy’n elusen, mae’n rhaid i chi wirio sut i gofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW pob 3 mis.

Cyfrifo’ch trosiant trethadwy

Er mwyn cyfrifo eich trosiant trethadwy TAW, mae angen i chi adio gwerth popeth yr ydych yn ei werthu mewn cyfnod o 12 mis sydd ddim yn bodloni un o’r amodau canlynol:

  • wedi’i eithrio rhag TAW

  • y tu hwnt i gwmpas TAW

Gwiriwch pa gyfradd TAW sy’n berthnasol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer gweithgarwch eich elusen.

Wedi’i esemptio rhag TAW

Ni allwch godi TAW ar nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u hesemptio (fel y ddarpariaeth o wasanaethau lles). Fel arfer, ni allwch adhawlio TAW ar unrhyw nwyddau na gwasanaethau sydd wedi’u prynu mewn perthynas â gweithgarwch busnes sydd wedi’i esemptio.

Ni allwch gofrestru ar gyfer TAW os yw holl weithgarwch eich busnes wedi’i esemptio rhag TAW.

Y tu hwnt i gwmpas TAW

Mae incwm o weithgarwch nad yw’n ymwneud â busnes y ‘tu hwnt i gwmpas’ TAW (ni allwch godi na hawlio TAW ar y gweithgarwch hwn). Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfraniadau ble na roddir unrhyw beth yn ôl

  • cyllid grant sydd wedi’i roi i gefnogi gweithgarwch elusennol ble na roddir unrhyw beth yn ôl 

  • gweithgarwch ble nad yw’ch sefydliad yn codi tâl

Dysgwch fragor ynghylch yr hyn sy’n cyfrif fel gweithgarwch busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Codi TAW

Unwaith eich bod wedi cofrestru, bydd angen i chi godi TAW ar y gyfradd gywir ar bopeth y byddwch yn eu darparu.

Adhawlio TAW

Os ydych wedi cofrestru, mae’n bosibl y byddwch yn gallu adhawlio TAW pan y byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW.

Gallwch adhawlio’r TAW a godwyd arnoch ar nwyddau a gwasanaethau mewn perthynas â’ch gweithgarwch busnes trethadwy.

Allforion y tu allan i’r DU

Os y byddwch yn darparu nwyddau y tu allan i’r DU yn ddi-dal (er enghraifft fel cymorth), gallwch drin hyn fel gweithgarwch busnes ar y gyfradd sero (TAW 0%) fel y gallwch adhawlio’r TAW ar unrhyw gostau cysylltiedig.