TAW ar gyfer elusennau
Yr hyn sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad TAW
Mae elusennau yn talu TAW ar yr holl nwyddau a gwasanaethau cyfradd safonol y byddant yn eu prynu gan fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW. Maent yn talu TAW ar gyfradd is (5%), neu ar y gyfradd sero ar rai nwyddau a gwasanaethau.
Yr hyn sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd is
Bydd eich elusen yn talu TAW ar gyfradd o 5% ar gyfer tanwydd a phŵer os ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion y canlynol:
-
llety preswyl (er enghraifft, cartref plant neu gartref gofal i’r henoed)
-
gweithgareddau elusennol nad ydynt yn ymwneud â busnes (er enghraifft, gofal dydd am ddim ar gyfer pobl ag anabledd)
-
defnydd ar raddfa llai (hyd at 1,000 kilowat yr awr o drydan y mis, neu gyflenwad o 2,300 litr o olew nwy)
Os yw llai na 60% o’r tanwydd a’r pŵer yn cael eu defnyddio ar gyfer rhywbeth sy’n gymwys, byddwch yn talu’r gyfradd TAW is ar y rhan sy’n gymwys, a’r gyfradd TAW safonol (20%) ar gyfer y gweddill.
Mae tanwydd a phŵer sy’n gymwys yn cynnwys nwyon, trydan, olew a thanwyddau solet (megis glo). Nid yw’n cynnwys tanwydd ar gyfer cerbydau.
Yr hyn sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd sero
Dysgwch am yr amodau sydd angen i chi eu bodloni fel nad yw eich elusen yn talu TAW (y gyfradd sero) pan y byddwch yn prynu:
-
hysbysebion ac eitemau ar gyfer casglu cyfraniadau (yn agor tudalen Saesneg)
-
cymhorthion ar gyfer pobl ag anabledd (yn agor tudalen Saesneg)
-
offer ar gyfer cynhyrchu llyfrau a phapurau newydd sy’n ‘siarad’ (yn agor tudalen Saesneg)
-
badau achub ac offer cysylltiedig, gan gynnwys tanwydd (yn agor tudalen Saesneg)
-
meddyginiaeth neu gynhwysion ar gyfer meddyginiaeth (yn agor tudalen Saesneg)
-
modelau ar gyfer hyfforddiant adfywio (yn agor tudalen Saesneg)
-
offer meddygol, milfeddygol a gwyddonol (yn agor tudalen Saesneg)
-
cerbydau modur sydd wedi’u dylunio neu wedi’u haddasu ar gyfer anabledd (yn agor tudalen Saesneg)
Nwyddau sy’n rhydd o TAW o’r tu allan i’r DU
Nid oes rhaid i elusennau dalu TAW ar nwyddau sydd wedi’u mewnforio o’r tu allan i’r DU, cyn belled â’u bod yn cael eu defnyddio er budd pobl sydd mewn angen, a hynny drwy ddarparu’r canlynol:
-
hanfodion sylfaenol
-
offer a deunyddiau swyddfa er mwyn eich helpu i redeg eich sefydliad er budd pobl sydd mewn angen
-
nwyddau a gaiff eu defnyddio neu eu gwerthu mewn digwyddiadau elusennol
Gallwch wirio pa nwyddau y gallwch hawlio rhyddhad TAW ar eu cyfer (yn agor tudalen Saesneg), yn ogystal â sut i hawlio.