TAW ar gyfer elusennau
Trosolwg
Fel elusen, ni fyddwch yn talu TAW pan fyddwch yn prynu rhai nwyddau a gwasanaethau.
Nid yw clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) yn gymwys ar gyfer yr un rhyddhadau TAW ag elusennau. Dysgwch am ryddhad treth ar gyfer CChAC (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut i gael rhyddhad TAW
Mae’n rhaid i chi brofi i’r person sy’n gwerthu’r nwyddau neu wasanaethau i chi, eich bod yn gymwys i gael rhyddhad. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Pryd mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw trosiant trethadwy TAW eich elusen (cyfanswm gwerth popeth rydych yn ei werthu nad yw wedi’i esemptio rhag TAW) yn fwy na £90,000.
Gallwch ddewis cofrestru os yw’r trosiant trethadwy TAW o dan y swm hwn, er enghraifft, os ydych am adhawlio’r TAW ar eich cyflenwadau.
Cael help gyda TAW
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg) (CThEF) os oes gennych gwestiynau ynglŷn â TAW ar gyfer eich elusen.