Talu eich bil treth â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Defnyddiwch y dudalen hon i dalu’r canlynol i Gyllid a Thollau EF (CThEF):
- Hunanasesiad
- TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr
- TAW
- Treth Gorfforaeth
- Treth Dir y Tollau Stamp
- Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
- Toll Alcohol
- Treth Incwm (oherwydd eich bod wedi tandalu yn flaenorol)
- nwyddau wedi’u mewnforio rydych wedi’u datgan ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
- taliadau amrywiol (os yw’ch cyfeirnod talu’n dechrau gydag ’X’)
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc – gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Beth mae angen i chi wybod
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Holwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd, neu am adegau pan na fydd y gwasanaethau ar gael.
Os na allwch dalu eich bil treth yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad o’r banc.