Cyfraniadau Dosbarth 1A ar dystebau chwaraeon

Digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, i anrhydeddu chwaraewr am ei wasanaeth yw tysteb chwaraeon, megis pan fo chwaraewr yn ymddeol.

Mae’n rhaid i’r pwyllgor tystebau dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A os yw’r taliad i’r chwaraewr:

  • yn fwy na £100,000
  • heb fod yng nghontract y chwaraewr

Elw o’r digwyddiad yw’r taliad fel arfer.

Mae’n rhaid i’r pwyllgor dalu’r cyfraniadau ar y taliad drwy TWE.