Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001039
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Cyfeirnod
Bydd angen i chi roi cyfeirnod, sy’n 17 o gymeriadau, fel y cyfeirnod talu. Mae hwn yn dechrau gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau. Yna, ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a’r digidau ‘13’ er mwyn gwneud yn siŵr bod eich taliad yn cael ei neilltuo’n gywir.
| Blwyddyn dreth | Ychwanegwch y digidau hyn at eich cyfeirnod |
|---|---|
| 2022 i 2023 | 2313 |
| 2023 i 2024 | 2413 |
| 2024 i 2025 | 2513 |
Enghraifft
Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.
I wneud taliad ym mis Gorffennaf 2024 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau ‘2413’ at eich cyfeirnod fel bod eich cyfeirnod nawr yn 123PA000123452413.
Mae’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.
Mae’n rhaid i chi wneud taliad ar wahân ar gyfer taliadau Dosbarth 1A. Ni allwch eu hychwanegu at daliad TWE safonol.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB62BARC20114770297690
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.