Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr
Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.