Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Bydd angen i chi archebu slipiau talu i mewn naill ai ar-lein neu dros y ffôn oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn i chi allu talu yn y modd hwn. Gall gymryd hyd at 6 wythnos iddynt gyrraedd.

Defnyddiwch y slipiau talu i mewn i dalu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu eich hun ag arian parod neu siec. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich rhif cofrestru TAW 9 digid ar gefn eich siec. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif cofrestru:

Os oes angen i chi dalu gordal TAW neu gosb

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod 14 o gymeriadau sy’n dechrau gydag X pan fyddwch chi’n talu.

Gallwch ddod o hyd i hyn ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch am eich gordal neu gosb.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc Cyllid a Thollau EF.