Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch bil TAW yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol. Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad TAW. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad TAW.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Cyfeirnod

Bydd angen eich rhif cofrestru TAW 9 digid arnoch i wneud taliad.

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif cofrestru:

Peidiwch â rhoi unrhyw fylchau rhwng y digidau wrth dalu’ch bil TAW.

Os oes angen i chi dalu gordal TAW neu gosb

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod 14 o gymeriadau sy’n dechrau gydag X pan fyddwch chi’n talu.

Gallwch ddod o hyd i hyn ar y llythyr a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) atoch am eich gordal neu gosb.