Talu os yw’ch cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth
Talu drwy drosglwyddiad banc
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Pryd fydd eich taliad yn cyrraedd CThEF
Fel arfer, bydd taliadau’n cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF):
- ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf ar gyfer Taliadau Cyflymach
- ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amseroedd prosesu’ch banc ar gyfer taliadau CHAPS
- o fewn 3 diwrnod gwaith ar gyfer taliadau Bacs
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Sut i dalu drwy drosglwyddiad banc
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Bydd angen eich llythyr P800 arnoch er mwyn i chi allu creu eich cyfeirnod.
Os ydych wedi cael mwy nag un llythyr P800, defnyddiwch y llythyr diweddaraf. Dim ond un taliad y bydd angen i chi ei wneud, hyd yn oed os yw’n cwmpasu mwy nag un flwyddyn dreth.
Creu eich cyfeirnod talu
Crëwch eich cyfeirnod drwy roi’r canlynol mewn trefn:
- eich rhif Yswiriant Gwladol llawn
- y cymeriadau: P800
- y flwyddyn dreth gyntaf sy’n ymddangos ar eich llythyr P800
Peidiwch â gadael unrhyw fylchau yn eich cyfeirnod.
Enghraifft
Os yw’ch rhif Yswiriant Gwladol yn ‘AB123456C’, ac mae’ch llythyr P800 yn berthnasol i’r flwyddyn dreth 2025 i 2026, eich cyfeirnod fydd: AB123456CP8002025
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw eich taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu a’r adran ymholiadau am Dreth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os ydych yn talu o gyfrif tramor
Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor drwy CHAPS, gan ddefnyddio’r manylion banc canlynol ar gyfer CThEF:
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.