Talu os yw’ch cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth
Talu â siec
Gallwch dalu â siec drwy’r post.
Bydd angen i chi ysgrifennu cyfeirnod taliad, sy’n 17 o gymeriadau, ar gefn y siec. Bydd angen eich llythyr P800 arnoch er mwyn i chi allu creu eich cyfeirnod.
Os ydych wedi cael mwy nag un llythyr P800, defnyddiwch y llythyr diweddaraf. Dim ond un taliad y bydd angen i chi ei wneud, hyd yn oed os yw’n cwmpasu mwy nag un flwyddyn dreth.
Creu eich cyfeirnod talu
Crëwch eich cyfeirnod drwy roi’r canlynol mewn trefn:
- eich rhif Yswiriant Gwladol llawn
- y cymeriadau: P800
- y flwyddyn dreth gyntaf sy’n ymddangos ar eich llythyr P800
Peidiwch â gadael unrhyw fylchau yn eich cyfeirnod.
Enghraifft
Os yw’ch rhif Yswiriant Gwladol yn ‘AB123456C’, ac mae’ch llythyr P800 yn berthnasol i’r flwyddyn dreth 2025 i 2026, eich cyfeirnod fydd: AB123456CP8002025
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw eich taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu a’r adran ymholiadau am Dreth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
I ble y dylech anfon eich siec
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:
HMRC
Direct
BX5 5BD
Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.