Talu os yw’ch cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth
Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Talu drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Ar ôl i chi fewngofnodi byddwch yn gallu gweld faint sydd arnoch, gwirio’ch cyfrifiad a thalu.
Ar ôl i chi dalu
Os ydych yn talu drwy’ch cyfrif banc ar-lein, gall gymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.