Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol

Sgipio cynnwys

Newidiadau o ran perthynas neu deulu

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os byddwch:

  • yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil

  • yn ysgaru, yn gwahanu neu’n rhoi’r gorau i fyw gyda’ch gŵr, gwraig neu bartner

Gallwch roi gwybod i CThEF ar-lein os ydych yn cael cyflog neu bensiwn drwy TWE. Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad hefyd, bydd eich manylion yn cael eu diweddaru ar gyfer y ddau beth.

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn – os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch hefyd (ni fydd cyfeirnod dros dro’n gweithio).

Rhowch wybod i CThEF ar unwaith – os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech dalu gormod o dreth neu gael bil treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Os ydych yn cael Budd-dal Plant

Rhowch wybod i CThEF ar wahân am newidiadau o ran eich perthynas neu deulu os ydych yn cael Budd-dal Plant.

Os bydd eich priod neu’ch partner sifil yn marw

Cysylltwch â CThEF i roi gwybod am y canlynol: