Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol

Neidio i gynnwys y canllaw

Newid rhywedd

Fel arfer, caiff Cyllid a Thollau EF (CThEF) wybod yn awtomatig pan fyddwch yn newid eich rhywedd yn gyfreithiol drwy wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd (yn agor tudalen Saesneg).

Rhowch wybod i’ch cyflogwr ar yr un pryd – mae’n rhaid iddo ddiweddaru eich cofnodion cyflogres a’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • diweddaru ei gofnodion i ddangos eich rhywedd ac unrhyw newid o ran eich enw

  • rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

  • cyfyngu’ch cofnodion fel mai dim ond staff arbenigol yn CThEF a DWP sy’n gallu cael mynediad atynt

  • rhoi eich materion treth yn nwylo Adran Gyhoeddus 1 CThEF (PD1)

Unwaith y cewch lythyr yn cadarnhau bod eich cofnodion wedi symud, gallwch gysylltu â PD1 gyda chwestiynau am eich treth neu’ch Yswiriant Gwladol.

Adran Gyhoeddus 1
Ffôn: 03000 534730
Dydd Llun – Dydd Gwener 8am tan 6pm
Dysgwch am gostau galwadau


CThEF
Tŷ William Morgan
Adran Gyhoeddus 1
6 Sgwâr Canolog
Caerdydd
CF10 1XS

Cael cyngor am y broses newid rhywedd

Os oes gennych gwestiynau ynghylch rhoi gwybod i CThEF am newid eich rhywedd yn gyfreithiol, gallwch ffonio Adran Arbennig D.

Ni allwch gadarnhau eich bod wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol dros y ffôn.

Adran Arbennig D / Special Section D
Ffôn: 03000 554344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Dysgwch am gostau galwadau

Rhowch wybod i CThEF eich hun

Gallwch ysgrifennu at Adran Arbennig D i roi gwybod i CThEF:

  • eich bod wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol

  • eich bod wedi newid eich enw, dim ond os na wnaethoch newid eich rhywedd yn gyfreithiol

  • os nad ydych am iddynt gyfyngu’ch cofnodion

Dylech gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a’ch Tystysgrif Cydnabod Rhywedd wreiddiol os ydych wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol.


CThEF / HMRC
Adran Arbennig D / Special Section D
Ystafell / Room BP9207
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ