Canllawiau

Cofnodi a rhoi gwybod am wartheg sy'n marw ar ddaliad

Rhaid i geidwaid gwartheg roi gwybod bod unrhyw wartheg wedi marw i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP), dychwelyd y pasbort gwartheg a chofnodi’r farwolaeth ar gofrestr eu daliad.

Applies to England and Wales

Pan fydd gwartheg, byfflos neu fuail yn marw neu’n cael eu lladd ar eich daliad, yn hytrach nag mewn lladd-dy, rhaid ichi wneud y canlynol:

  1. Rhoi gwybod i GSGP.
  2. Dychwelyd y pasbort gwartheg (neu’r dogfennau adnabod eraill) i GSGP.
  3. Cofnodi manylion marwolaeth yr anifail yng nghofrestr eich daliad.
  4. Trefnu profi’r carcas ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE) o fewn 72 awr, lle bo angen.
  5. Gwaredu’r carcas.

Rhaid ichi wneud hyn o fewn 7 diwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail, neu’n gynharach. Diwrnod 1 yw’r diwrnod ar ôl i’r anifail farw.

Rhaid ichi gyflawni’r holl weithredoedd hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, cael llai o daliadau cymhorthdal neu gallech gael eich erlyn.

Mae’r rheolau’n wahanol os yw eich gwartheg chi:

  • heb basport am fod hwnnw wedi cael ei wrthod
  • wedi’u geni cyn 1996

Chaiff yr anifeiliaid hyn ddim mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Darllenwch y canllawiau ar wartheg heb basbortau.

Rhoi gwybod am farwolaeth ar-lein

Gallwch roi gwybod am farwolaeth drwy ddefnyddio’r System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu becynnau meddalwedd ffermio cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg).

I roi gwybod am nifer o farwolaethau, gallwch uwchlwytho ffeil i SOG Ar-lein. Os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud hyn cysylltwch â GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn

Rhoi gwybod am farwolaeth dros y ffôn

Os oes gan yr anifeiliaid dagiau clust swyddogol y Deyrnas Unedig, gallwch roi gwybod am eu marwolaethau ar linell ffôn hunanwasanaeth SOG.

Pan fyddwch yn ffonio, bydd arnoch chi angen:

  • eich rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg)
  • rhifau tagiau clust swyddogol pob anifail
  • dyddiad marwolaeth pob anifail

Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ffôn a rhifau ffôn

Rhoi gwybod am farwolaeth drwy’r post

Llenwch fanylion y farwolaeth ar basbort yr anifail a’i anfon at GSGP. Rhaid iddo gyrraedd o fewn 7 diwrnod ar ôl y farwolaeth.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Dychwelyd dogfennau i GSGP

Mae’r ddogfen sydd gennych ar gyfer eich anifeiliaid yn dibynnu ar ba bryd y cawson nhw eu cofrestru.

Dyddiad cofrestru’r gwartheg Y ddogfen i’w dychwelyd
Wedi’u cofrestru ar ôl 1 Awst 2011 Pasbort tudalen sengl (CPP52)
Wedi’u cofrestru rhwng 28 Medi 1998 a 31 Gorffennaf 2011 Pasbort tebyg i lyfr sieciau (CPP13)
Wedi’u cofrestru rhwng 1 Awst 1996 a 27 Medi 1998 Pasbort gwartheg yr hen ddull (glas a gwyrdd) (CPP1) a thystysgrif gofrestru SOG (COR neu ffurflen CHR3)
Wedi’u geni, wedi’u mewnforio neu wedi’u symud i Brydain Fawr cyn 1 Awst 1996 Tystysgrif gofrestru SOG (COR neu CHR3)
Anifail heb basbort wedi’i eni ar ôl 1 Awst 1996 Hysbysiad cofrestru (CPP35) neu lythyr os nad yw’r CPP35 wedi’i gadw

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth ar-lein neu dros y ffôn, does dim angen ichi lenwi manylion y farwolaeth ar basbortau tudalen sengl. Yn hytrach, ticiwch y blwch i ddweud eich bod chi wedi rhoi gwybod am y farwolaeth.

Yn achos pasbortau ar ffurf llyfr sieciau, llenwch fanylion y farwolaeth.

Yn achos pasbortau glas a gwyrdd neu dystysgrifau cofrestru, llenwch ddyddiad a man y farwolaeth ar y pasbort.

Peidiwch ag anfon eich tystysgrif bridio neu’ch tystysgrif bedigri.

Anfonwch y dogfennau yn ôl i:

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad wrth roi gwybod am farwolaeth

Rhowch wybod am unrhyw wallau i GSGP mewn ysgrifen cyn gynted ag y cewch chi wybod am y broblem.

Gallwch chi naill ai:

  • anfon neges yn eich cyfrif SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg)
  • anfon neges ebost neu anfon llythyr at GSGP

Esboniwch y broblem a chofiwch gynnwys:

  • rhif eich daliad
  • rhifau’r tagiau clust swyddogol

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Cofnodi’r marwolaethau yng nghofrestr eich daliad

Rhaid i bob marwolaeth gael ei chofnodi yng nghofrestr eich daliad. Rhaid ichi wneud hyn o fewn 7 diwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail.

Darllenwch y canllawiau ar gadw cofrestr daliad ar gyfer eich gwartheg.

Cofnodi anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y daliad

Rhaid ichi lenwi manylion marwolaeth anifail yn ei basport os cafodd ei ladd ar eich daliad.

Os cafodd yr anifail ei ladd gan filfeddyg neu weithredwr ladd-dy a’i gymryd i ladd-dy i gael ei drin, rhaid ichi anfon y pasbort gyda’r anifail. Rhaid i’r pasbort ddangos bod yr anifail wedi marw ar eich daliad.

Os bydd llo anghofrestredig yn marw

Mae gwahanol bethau mae’n rhaid ichi eu gwneud gan ddibynnu pryd mae’r llo yn marw

Chewch chi ddim ailddefnyddio tagiau clust llo marw ar gyfer anifail arall.

Cyn ichi osod tagiau clust

Does dim angen ichi roi gwybod am farwolaeth llo i GSGP os yw’n marw cyn ichi osod ei dagiau clust.

Mae’n rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad drwy nodi dyddiad geni’r llo a dyddiad ei farwolaeth gyferbyn â manylion mam y llo.

Cyn ichi wneud cais am basbort

Os bydd llo yn marw ar ôl i chi osod ei dagiau clust, ond cyn i chi wneud cais am ei basport, rhaid ichi ddweud wrth GSGP.

Gallwch chi:

  • ddefnyddio SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg) neu becynnau meddalwedd ffermio cydnaws (tudalen gwe yn Saesneg)
  • defnyddio llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
  • anfon cais am basbort gwartheg (ffurflen CPP12) i GSGP - llenwch adrannau 2 a 3 (manylion yr anifail) ac adran 4 (marwolaeth yr anifail)

Llinell ffôn hunanwasanaeth SOG
Ffôn (Cymraeg): 0345 011 1213
Ffôn (Saesneg): 0345 011 1212
24 awr y dydd, 7 diwrnod
Costau ffôn a rhifau ffôn

Ar ôl ichi wneud cais am basport

Os ydych chi wedi gosod tagiau clust ar y llo yn barod ac wedi gwneud cais am basport, cysylltwch â GSGP i ddweud wrthyn nhw am y farwolaeth. Pan gewch chi’r pasbort, bydd angen ichi lenwi manylion y farwolaeth a’i anfon yn ôl i GSGP.

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn

Pryd i brofi ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE)

Rhaid i chi drefnu bod y carcas yn cael ei brofi ar gyfer TSE – mae’r prawf yn chwilio am bresenoldeb enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE). Mae angen ichi brofi os oedd yr anifail marw:

  • dros 48 mis oed ac wedi’i eni yn y Deyrnas Unedig neu un o’r gwledydd yn y tabl gwledydd a chodau gwledydd isod
  • dros 24 mis oed ac wedi’i eni mewn unrhyw wlad arall

Does dim rhaid ichi brofi am TSE os yw’r anifail yn marw ar Ynysoedd Sili, Ynys Lundy, Ynys Enlli, Ynys Echni neu Ynys Bŷr.

Bydd angen ichi naill ai:

  • rhwygo’r slip profion TSE oddi ar waelod pasbort tudalen sengl
  • cadw cerdyn symud yn ôl os nad oes gan yr anifail basport tudalen sengl

Rhaid i’r slip neu’r cerdyn fynd gyda’r carcas i safle samplu wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg).

Pan fydd y carcas yn gadael eich daliad, does dim angen ichi roi gwybod am symudiad oddi ar eich daliad. Bydd y safle samplu yn gwaredu’r carcas.

Bydd anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio neu sy’n cael eu symud i Gymru neu Loegr ac sydd wedi’u haildagio yn dangos y wlad enedigol ar y pasbort a roddwyd gan GSGP.

Tabl gwledydd a chodau gwledydd

Mae angen i anifeiliaid dros 48 mis oed a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig neu un o’r gwledydd sydd wedi’u rhestru yn y tabl gael eu profi ar gyfer TSE.

Gwlad Cod y wlad
Awstria AT
Gwlad Belg BE
Cyprus CY
Y Weriniaeth Tsiec CZ
Denmarc DK
Estonia EE
Y Ffindir FI
Ffrainc FR
Yr Almaen DE
Groeg EL
Hwngari HU
Iwerddon IE
Yr Eidal IT
Latfia LV
Lithwania LT
Lwcsembwrg LU
Malta MT
Yr Iseldiroedd NL
Gwlad Pwyl PL
Portiwgal PT
Slofacia SK
Slofenia SI
Sbaen ES
Sweden SE

Sut i drefnu prawf TSE

Rhaid mynd â’r carcas i safle samplu wedi’i gymeradwyo (tudalen gwe yn Saesneg) o fewn 72 awr ar ôl ei farwolaeth.

Gallwch chi:

  • trefnu iddo gael ei gasglu - rhaid ichi drefnu hyn gyda chasglwr o fewn 24 awr ar ôl marwolaeth yr anifail
  • mynd â’r carcas eich hun

I drefnu i anifail gael ei gasglu cysylltwch â naill ai:

Anfonwch bob carcas gyda naill ai:

  • y slip TSE sydd wedi’i dorri oddi ar basbort tudalen sengl
  • cerdyn symud os oes gan yr anifail basbort ar ffurf llyfr sieciau

Does dim angen ichi anfon dim byd gyda’r anifail os dim ond hysbysiad cofrestru sydd ganddo.

Peidiwch ag anfon y pasbort na’r hysbysiad cofrestru gyda’r anifail. Rhaid ichi roi gwybod am y farwolaeth i GSGP a dychwelyd y pasbort neu’r hysbysiad iddyn nhw.

Pryd nad oes rhaid ichi brofi ar gyfer TSE

Does dim rhaid ichi brofi ar gyfer TSE os yw’r anifail yn marw:

  • cyn ei fod yn 48 mis oed os cafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig neu un o’r gwledydd a restrir yn y tabl gwledydd a chodau gwledydd
  • cyn ei fod yn 24 mis oed os na chafodd ei eni yn y gwledydd a restrir yn y tabl
  • ar Ynysoedd Sili, Ynys Lundy, Ynys Enlli, Ynys Echni neu Ynys Bŷr

Yn hytrach, rhaid ichi wneud un o’r canlynol:

Gwaredu carcas

Chewch chi ddim claddu na llosgi carcasau ar eich daliad oni bai bod safle hylosgi ar eich daliad wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Darllenwch y canllaw ar sut i waredu stoc drig (tudalen gwe yn Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Cewch losgi neu gladdu stoc drig ar y canlynol:

  • Ynysoedd Sili
  • Ynys Lundy
  • Ynys Enlli
  • Ynys Echni
  • Ynys Bŷr

Cysylltu â GSGP

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ebost:bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Costau ffôn a rhifau ffôn

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 November 2022 + show all updates
  1. Content has been reviewed for accuracy and reformatted. New information includes signposting to what to do with cattle without passports and how to correct an error.

  2. Added translation

  3. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  4. Updated telephone number for NFSC

  5. Updated National Fallen Stock Company telephone number.

  6. First published.