Skip to main content

Treth a thollau ar gyfer nwyddau a anfonir o dramor

Sgipio cynnwys

Treth a thollau

Bydd y Post Brenhinol, Parcelforce neu’r cwmni cludo’n cysylltu â chi os oes angen i chi dalu unrhyw TAW, tollau neu gostau dosbarthu i gael eich nwyddau.

Byddant yn anfon bil atoch yn nodi’n union pa ffioedd y mae angen i chi eu talu.

Fel arfer byddant yn dal eich parsel am tua 3 wythnos. Os nad ydych wedi talu’r bil erbyn hynny, bydd eich parsel yn cael ei ddychwelyd i’r anfonwr.

TAW

Codir TAW ar bob un o’r nwyddau (ac eithrio rhoddion gwerth £39 neu lai) a anfonir:

  • o’r tu allan i’r DU i Brydain Fawr
  • o’r tu allan i’r DU a’r UE i Ogledd Iwerddon

Ni chodir TAW ar nwyddau sy’n rhoddion gwerth £39 neu lai.

Rydych yn talu TAW pan fyddwch yn prynu’r nwyddau, neu i’r cwmni dosbarthu cyn iddynt ddod i law. Os oes rhaid i chi dalu TAW i’r cwmni dosbarthu, mae’n cael ei chodi ar gyfanswm gwerth y pecyn, gan gynnwys:

  • gwerth y nwyddau
  • costau postio, pecynnu ac yswiriant
  • unrhyw doll sydd arnoch

Codir TAW ar y gyfradd TAW sy’n berthnasol i’ch nwyddau.

Nwyddau gwerth cyfanswm o £135 neu lai

Os gwnaethoch brynu’r nwyddau’ch hun ac nad ydynt yn nwyddau ecséis, bydd y gwerthwr wedi cynnwys TAW yn y cyfanswm a dalwyd gennych.

Bydd angen i chi dalu TAW i’r cwmni dosbarthu os yw’r nwyddau yn:

  • rhoddion a anfonir atoch gan rywun arall ac sy’n werth mwy na £39
  • nwyddau ecséis

Nwyddau gwerth mwy na chyfanswm o £135

Bydd yn rhaid i chi dalu TAW i’r cwmni dosbarthu naill ai cyn i’r nwyddau gael eu dosbarthu neu pan fyddwch yn eu casglu.

Toll Dramor os ydych ym Mhrydain Fawr

Codir Toll Dramor arnoch ar nwyddau a anfonir o’r tu allan i’r DU os ydynt naill ai:

  • yn nwyddau ecséis
  • â gwerth mwy na £135

Os codir Toll Dramor arnoch, bydd angen i chi ei thalu ar y canlynol:

  • y pris a dalwyd am y nwyddau
  • costau postio, pecynnu ac yswiriant
Math a gwerth y nwyddau Toll Dramor yr ydych yn ei thalu
Nwyddau nad ydynt yn agored i dollau ecséis gwerth £135 neu lai Dim tâl
Nwyddau dros £135 Mae’r gyfradd yn dibynnu ar y math o nwyddau ac o ble y daethant - defnyddiwch y gwasanaeth Tariff Masnach (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cyfraddau tollau

Rydych yn talu’r Doll Dramor ar nwyddau ecséis o unrhyw werth.

Toll Dramor os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Codir Toll Dramor arnoch ar nwyddau a anfonir o’r tu allan i’r DU a’r UE os ydynt yn unrhyw un o’r canlynol:

  • nwyddau ecséis

  • â gwerth mwy na £135

  • wedi’u hystyried yn rhai sydd ‘mewn perygl’ o ddod i mewn i’r UE

Bydd y cwmni cludo yn rhoi gwybod i chi os yw’ch nwyddau wedi cael eu hystyried yn rhai sydd ‘mewn perygl’ o ddod i mewn i’r UE.

Os codir Toll Dramor arnoch, bydd angen i chi ei thalu ar y canlynol:

  • y pris a dalwyd am y nwyddau
  • costau postio, pecynnu ac yswiriant

Os yw’ch nwyddau yn rhai ‘nad ydynt mewn perygl’ o ddod i mewn i’r UE

Ar gyfer nwyddau nad ydynt yn agored i dollau ecséis, mae’r gyfradd rydych yn ei thalu yn dibynnu ar werth eich nwyddau.

Math a gwerth y nwyddau Toll Dramor yr ydych yn ei thalu
Nwyddau nad ydynt yn agored i dollau ecséis gwerth £135 neu lai Dim tâl
Nwyddau dros £135 Cyfradd doll y DU. Mae’r gyfradd yn dibynnu ar y math o nwyddau ac o ble y daethant - defnyddiwch y gwasanaeth Tariff Masnach (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cyfraddau tollau

Rydych yn talu’r Doll Dramor ar nwyddau ecséis o unrhyw werth.

Os yw’ch nwyddau ‘mewn perygl’ o ddod i mewn i’r UE

Os ydych yn fusnes, byddwch yn talu’r doll ar unrhyw nwyddau. Os nad ydych yn fusnes, mae’r hyn y byddwch yn talu yn dibynnu ar werth eich nwyddau.

Derbynnydd y nwyddau Gwerth y nwyddau Toll Dramor yr ydych yn ei thalu
Busnes Nwyddau ag unrhyw werth Cyfradd doll yr UE, oni bai eich bod yn hawlio ildiad neu ryddhad. Mae’r gyfradd yn dibynnu ar y math o nwyddau ac o ble y daethant
Ddim yn fusnes Nwyddau gwerth £135 neu lai 3 ewro fesul eitem (a godir mewn punnoedd sterling yn ôl y gyfradd gyfnewid)
Ddim yn fusnes Nwyddau gwerth mwy na £135 Cyfradd doll yr UE. Mae’r gyfradd yn dibynnu ar y math o nwyddau ac o ble y daethant

Defnyddiwch y gwasanaeth Tariff Masnach (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cyfraddau tollau.

Toll Ecséis

Os yw alcohol neu dybaco yn cael eu hanfon o’r tu allan i’r DU, codir Treth Ecséis arnoch ar gyfraddau presennol (yn agor tudalen Saesneg).

Os caiff y nwyddau eu hanfon o’r UE i Ogledd Iwerddon, gwiriwch fod y Doll Ecséis wedi’i chynnwys yn y pris. Os nad ydyw wedi’i chynnwys, mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg).

Does dim ots a ydych yn prynu’r nwyddau neu os ydynt yn cael eu hanfon fel rhodd.

Os ydych yn cael llawer iawn o alcohol neu dybaco ar gyfer eich busnes, defnyddiwch y gwasanaeth Tariff Masnach (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cyfraddau tollau.

Gellir atafaelu’ch nwyddau hefyd os ydynt:

  • yn wirodydd dros 35 centilitr heb stamp tollau’r DU
  • yn sigaréts neu’n dybaco rholio â llaw heb rybuddion iechyd y DU neu nodau cyllidol

Os codir gormod o dreth arnoch neu eich bod yn dychwelyd eich nwyddau

Gofynnwch am ad-daliad TAW neu Doll Dramor os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn dychwelyd eich nwyddau
  • rydych o’r farn bod gormod o dreth wedi’i chodi arnoch

Lawrlwythwch a llenwch:

  • ffurflen BOR 286 os yw’r Post Brenhinol neu Parcelforce wedi dosbarthu’r nwyddau
  • ffurflen C285 os gwnaeth unrhyw gludwr neu gwmni arall anfon nwyddau ddosbarthu’r nwyddau