Canllawiau

Sut i wneud cais am ad-daliad ar gyfer TAW a thollau mewnforio os ydych wedi eu gordalu (C285)

Dysgwch pa wasanaeth i’w ddefnyddio ar gyfer datganiadau mewnforio a wneir trwy’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS) neu ar gyfer datganiadau mewnforio a wneir trwy System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).

Gallwch hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu TAW a thollau mewnforio.

Mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth ar-lein, neu wneud cais gan ddefnyddio ffurflen C285. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i chi wirio trwy ba wasanaeth y cafodd y datganiad ei wneud, naill ai:

  • CHIEF — mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth ar-lein
  • Gwasanaeth Datganiadau Tollau — gwnewch gais trwy ddefnyddio ffurflen C285

Os ydych yn ansicr, gallwch ofyn i’ch asiant neu’ch cynrychiolydd gadarnhau trwy ba wasanaeth y cafodd y datganiad ei wneud.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu tollau ecséis.

Os ydych o’r farn fod gennych hawl i ad-daliad o doll dramor yn dilyn adolygiad gan yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio ffurflen C285. Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud hyn.

Os ydych yn fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio ffurflen C285 i hawlio ad-daliad ar gyfer TAW a ordalwyd — rhaid gwneud unrhyw addasiad ar eich Ffurflen TAW. Mae addasiadau i Ffurflenni TAW yn destun i reolau TAW arferol.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi barhau i ddefnyddio ffurflen C285 i hawlio ad-daliad.

Pwy all wneud cais

Gallwch hawlio os ydych yn un o’r canlynol:

  • mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr
  • asiant
  • trefnydd anfon nwyddau
  • unigolyn preifat

Pryd i wneud cais

Mae’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliad am ad-daliad ynghylch gordaliad tollau a TAW fel a ganlyn:

  • 3 blynedd am ordaliadau
  • 1 flwyddyn am fewnforion wedi’u gwrthod
  • 3 mis am gofnod tollau annilys

Gwiriwch y ddeddfwriaeth am eithriadau.

Dylech wneud cais o dan y ddeddfwriaeth Cod Tollau’r Undeb (UCC) (yn Saesneg) os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir amdanoch:

  • gwnaethoch fewnforio’r nwyddau cyn 1 Ionawr 2021
  • rydych yn mewnforio nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon

Dylech wneud cais o dan y Rheoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018 (yn Saesneg) os ydych wedi mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr (Cymru, yr Alban, Lloegr) cyn neu ar ôl 1 Ionawr 2021.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn hawlio ad-daliad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ffurflen E2 — y ffurflen am gofnod wedi’i dderbyn a ddaeth i law ar gyfer nwyddau sy’n cael eu mewnforio i’r DU, ar gyfer hawliadau CHIEF yn unig
  • ffurflen C88 — y brif ffurflen tollau a ddefnyddir ar gyfer datgan nwyddau i’r tollau wrth fasnachu’n rhyngwladol, ar gyfer hawliadau CHIEF yn unig
  • y cyfeirnod symud (MRN) — ar gyfer hawliadau y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
  • anfoneb fasnachol am y nwyddau sy’n cael eu mewnforio
  • rhestr bacio
  • y dogfennau cludiant — y bil teithrestr awyr neu’r bil llwytho
  • swm y TAW neu dollau mewnforio a dalwyd i CThEF
  • y swm y dylid bod wedi’i dalu i CThEF
  • eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad

Mae’n bosibl y gofynnir i chi uwchlwytho dogfennaeth ychwanegol yn dibynnu ar fath eich hawliad.

Gwneud cais ar ein gwasanaeth ar-lein ar gyfer CHIEF

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i gyflwyno’ch hawliad (yn Saesneg) os gwnaethoch eich datganiad ar CHIEF.

Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a ffeiliau angenrheidiol yn barod gennych i’w huwchlwytho.

Hawlio ar ffurflen C285

Os gwnaethoch eich datganiad ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau

Defnyddiwch ffurflen C285 ar gyfer datganiadau a wneir trwy’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

Os gwnaethoch eich datganiad ar CHIEF

Os ydych yn dewis peidio â defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch dal i ddefnyddio ffurflen C285 ar gyfer CHIEF ar gyfer datganiadau a wneir ar CHIEF.

Ar gyfer y ddwy ffurflen, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Casglu’r holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni. Byddwch yn llenwi’r ffurflen ar-lein ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch ffurflen C285 ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau neu ffurflen C285 ar gyfer CHIEF.

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF, gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol perthnasol — defnyddiwch y cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Mae’n bosibl nad yw’r ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol — megis darllenydd sgrin. Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni Cyllid a Thollau EF (yn Saesneg).

Os cafodd y datganiad ei wneud gan asiant neu gynrychiolydd

Gallwch ofyn i’ch asiant neu’ch cynrychiolydd gadarnhau pa wasanaeth a ddefnyddiwyd i wneud y datganiad.

Os ydych yn gwmni cludo parseli’n gyflym (FPO), bydd angen i chi wirio’r arweiniad ar ‘Talu TAW ar fewnforion o’r tu allan i’r DU i Brydain Fawr, ac o’r tu allan i’r UE i Ogledd Iwerddon’ (yn Saesneg) cyn defnyddio’r ffurflen hon.

Cyhoeddwyd ar 31 October 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 January 2024 + show all updates
  1. Information about what to do if you think you may be entitled to a repayment of customs duty following a review by the Trade Remedies Authority has been added.

  2. This guide has been updated to confirm that VAT-registered importers cannot use form C285 to reclaim overpayments of import VAT and the section on overpaid Customs Duty on imports from Cambodia and Myanmar has been removed.

  3. Added information on 'Overpaid Customs Duty on imports from Cambodia and Myanmar'.

  4. First published.