Canllawiau

Gwneud cais i hawlio ad-daliad neu ddileu tollau mewnforio ar nwyddau ‘mewn perygl’ a ddaw i mewn i Ogledd Iwerddon

Gwiriwch a allwch wneud cais am ad-daliad neu ddileu tollau mewnforio ar nwyddau ‘mewn perygl’ a ddaw i mewn i Ogledd Iwerddon, drwy’r Cynllun Ad-dalu Toll.

Os ydych wedi symud nwyddau ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon, mae’n bosibl y gallwch hawlio ad-daliad tollau fewnforio a dalwyd, neu ddileu treth fewnforio ohiriedig.

Byddwch yn gymwys i wneud cais am symudiadau unigol neu luosog os yw’r ddau o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi talu neu ohirio toll fewnforio yr UE ar nwyddau y dewch â nhw i mewn i Ogledd Iwerddon
  • mae gennych dystiolaeth bod eich nwyddau wedi bodloni’r amodau i fod yn gymwys i gael ad-daliad neu gael eu dileu, y manylir arnynt yn adran ’Cyn i chi hawlio’ o’r arweiniad hwn

Os nad ydych yn preswylio neu wedi’ch sefydlu yn y DU, mae’n rhaid i chi gael asiant neu gynrychiolydd wedi’i sefydlu yn y DU i gyflwyno’r hawliad ar eich rhan.

Gallwch gyflwyno hawliad am gyfran o’r tollau fewnforio a delir neu a ohiriwyd ar lwyth o nwyddau ‘mewn perygl’. Er enghraifft, os byddwch yn symud llwyth o 100 o nwyddau ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon a bod 50 o’r nwyddau hynny wedi hynny’n bodloni’r amodau a nodir yn yr arweiniad hwn, gallwch hawlio’r tollau a godir ar y 50 o nwyddau hynny.

Bydd y Cynllun Ad-dalu Toll hefyd ar gael ar gyfer tollau’r UE a godir pan fydd nwyddau’n symud o dan y trefniadau newydd a fydd yn dod yn weithredol o dan Fframwaith Windsor yn hydref 2024.

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch wneud cais am Dollau’r UE a delir neu a ohiriwyd ar nwyddau y dewch â nhw i mewn i Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Bydd angen i chi hawlio:

  • erbyn 30 Mehefin 2026, os ydych wedi talu treth rhwng 1 Ionawr 2021 a 30 Mehefin 2023
  • cyn pen 3 blynedd ar ôl cael eich hysbysu o’r doll, os cawsoch eich hysbysu ar ôl 30 Mehefin 2023

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Ar gyfer tollau a delir neu a gohiriwyd ar y canlynol:

  • symudiadau nwyddau o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i Ogledd Iwerddon, gallwch hawlio am y swm cyfan
  • mewnforion i Ogledd Iwerddon o wlad y tu allan i’r DU neu’r UE, os oedd tollau’r UE yn fwy na thollau’r DU ar adeg mewnforio, gallwch hawlio am y gwahaniaeth rhwng y 2 gyfradd

Pwy all hawlio

Gallwch hawlio os ydych yn un o’r canlynol:

  • mewnforiwr y symudiad gwreiddiol ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon
  • asiant neu gynrychiolydd sy’n gweithredu ar ran y mewnforiwr

Mae’n rhaid i chi gael eich awdurdodi gan y mewnforiwr os ydych yn hawlio ar ei ran (yn Saesneg).

Cyn i chi hawlio

Mae’n rhaid i chi roi digon o dystiolaeth i ddangos bod y nwyddau rydych chi’n eu hawlio ar eu cyfer yn bodloni un o’r am-odau canlynol, cyn belled nad yw’r nwyddau hynny wedi’u symud i mewn i’r UE yn gyntaf.

  1. Nwyddau a fydd yn cael eu gwerthu trwy manwerthu corfforol neu nwyddau y bwriedir eu gwerthu trwy manwerthu corfforol yng Ngogledd Iwerddon.
  2. Symud ymlaen o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.
  3. Allforio o Ogledd Iwerddon i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE.
  4. Defnydd terfynol yng Ngogledd Iwerddon.
  5. Gosod parhaol yng Ngogledd Iwerddon.
  6. Dinistrio y nwyddau yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r adrannau canlynol yn rhoi rhagor o fanylion am yr amodau hyn, gan gynnwys enghreifftiau o dystiolaeth y gallwch ei roi i ategu’ch cais. Mae’r rhain yn enghreifftiol yn hytrach na chynhwysfawr. Bydd rhinweddau pob hawliad yn dibynnu ar ffeithiau’r achos a’r dystiolaeth a gyflwynir. Bydd hawliadau’n cael eu gwrthod os nad ydych yn rhoi digon o dystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni’r amodau.

Nwyddau i’w manwerthu yng Ngogledd Iwerddon

Gallwch hawlio ar gyfer nwyddau yr ydych wedi’u gwerthu neu y byddwch yn eu gwerthu i ddefnyddiwr yng Ngogledd Iwerddon, neu am nwyddau yr ydych wedi’u gwerthu i fusnes arall yng Ngogledd Iwerddon os gallwch brofi y bydd y nwyddau hynny yn cael eu gwerthu i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon yn y pen draw.

Os ydych yn gwerthu nwyddau yn uniongyrchol i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi roi tystiolaeth o’r gwerthiant i’r defnyddiwr, gallai hyn gynnwys:

  • anfoneb gwerthu neu dderbynneb gwerthu
  • y contract ar gyfer y gwerthiant
  • cofnodion stocrestr
  • cofnodion TAW
  • tystiolaeth o archebion cwsmeriaid a chadarnhad o’r cyflenwad terfynol yn unol â’r gorchymyn

Os ydych yn gwerthu’r nwyddau i fanwerthwr neu fusnes arall yng Ngogledd Iwerddon, dylech roi tystiolaeth o’r gwerthiant i’r manwerthwr neu’r busnes arall a thystiolaeth y bydd y nwyddau’n cael eu gwerthu yng Ngogledd Iwerddon wedi hynny. Gallai’r rhain hyn gynnwys:

  • yr anfoneb gwerthu neu’r dderbynneb gwerthu gan y busnes sy’n prynu’r nwyddau
  • dogfennau masnachol, fel anfoneb TAW (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
  • cofnodion stocrestr
  • contract ar gyfer y gwerthiant — dogfen gyfreithiol rwymol sy’n cynnwys manylion y cyfnewid, telerau’r gwerthiant, disgrifiad cynnyrch clir ac yn sicrhau hawliau a rhwymedigaethau’r ddau barti yn ystod y trafodiad

Darllenwch yr adran ‘Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE’ i wirio a oes angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.

Nwyddau sydd wedi eu symud o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr

Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys dogfennau trafnidiaeth (megis nodyn llwyth ar y ffordd neu anfoneb cludo nwyddau) i ddangos eich bod wedi cludo nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.

Dylech ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys:

  • anfoneb gwerthu (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
  • dogfennau masnachol, fel anfoneb TAW (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
  • tystiolaeth o archebion cwsmeriaid
  • rhestr bacio (mae’n rhaid cynnwys y cyrchfan)
  • data’r maniffest
  • bil llwytho
  • y datganiad allforio, os yw’n berthnasol (yn Saesneg)

Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y nwyddau sydd wedi’u symud i Brydain Fawr yr un nwyddau y codwyd tollau arnoch wrth fynd i mewn i Ogledd Iwerddon.

Er enghraifft, os symudoch nifer o’r un math o nwyddau i Brydain Fawr, mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod yn hawlio ad-daliad am y nwyddau penodol y gwnaethoch eu symud yn y lle cyntaf. Gallai’r rhain hyn gynnwys:

  • rhifau model neu gyfresol (neu ddynodwyr rhifiadol eraill)
  • tystysgrifau cydymffurfio
  • manylebau technegol

Darllenwch yr adran ‘Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE’ i wirio a oes angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.

Nwyddau sydd wedi’u hallforio o Ogledd Iwerddon i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE

Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys datganiad allforio a dylai gynnwys cyfeirnod symud (MRN). Dysgwch sut i wneud datganiad allforio llawn (yn Saesneg).

Gallwch ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys:

  • anfoneb gwerthu (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
  • dogfennau masnachol, fel anfoneb TAW (mae’n rhaid cynnwys lleoliad y derbynnydd)
  • tystiolaeth o archebion cwsmeriaid
  • rhestr bacio (mae’n rhaid cynnwys y cyrchfan)
  • dogfennau cludiant
  • data’r maniffest
  • bil llwytho

Darllenwch yr adran ‘Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE’ i wirio a oes angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.

Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y nwyddau sydd wedi’u hallforio i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE, yr un nwyddau y codwyd tâl arnoch amdanynt wrth fynd i mewn i Ogledd Iwerddon.

Er enghraifft, os gwnaethoch allforio nwyddau i leoliad y tu allan i’r DU neu’r UE, mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod yn hawlio ad-daliad am y nwyddau penodol y gwnaethoch eu mewnforio i ddechrau. Gallai’r rhain hyn gynnwys:

  • rhifau model neu gyfresol (neu ddynodwyr rhifiadol eraill)
  • tystysgrifau cydymffurfio
  • manylebau technegol

Nwyddau a ddefnyddir yn derfynol yng Ngogledd Iwerddon

Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys dogfennau masnachol neu gofnodion sy’n dangos tystiolaeth o ddefnydd gwirioneddol.

Gallwch ategu’ch cais gyda chofnodion stocrestr, gan ddangos bod nwyddau wedi’u defnyddio’n derfynol. Er enghraifft, gallai cofnod mewnol sy’n dangos bod sylwedd wedi’i ddefnyddio’n gyfan gwbl ategu hawliad am ad-daliad mewn perthynas â thollau a dalwyd ar symudiad o’r sylwedd hwnnw.

Nwyddau sydd wedi’u lleoli yn barhaol yng Ngogledd Iwerddon

Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys dogfennau masnachol neu gofnodion sy’n dangos tystiolaeth bod y nwyddau wedi’u lleoli yn barhaol.

Gallwch ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys:

  • cofnodion stocrestr
  • dogfennau masnachol (megis tystysgrifau cydymffurfio, rhifau modelau, manylebau technegol)
  • rhestr bacio
  • anfoneb gwerthiannau

Nwyddau sydd wedi’u dinistrio yng Ngogledd Iwerddon

Mae’n rhaid i’ch hawliad gynnwys tystysgrifau dinistrio swyddogol, fel cofnodion sy’n dangos bod cerbyd wedi’i sgrapio.

Gallwch ategu’ch hawliad gyda thystiolaeth arall, er enghraifft data masnachol ar stocrestr a delir gan eich busnes ar drin y nwyddau y gellir croesgyfeirio atynt gyda’ch cyfrifeg stocrestr.

Lle efallai y bydd angen tystiolaeth ychwanegol arnoch

Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau wedi’u prosesu

Os yw’ch nwyddau wedi’u prosesu yng Ngogledd Iwerddon ar ôl codi toll, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi tystiolaeth ychwanegol.

Dylai’r dystiolaeth i ategu’ch hawliad, lle mae nwyddau wedi cael eu prosesu, ddangos bod mewnbynnau i brosesu yn cwrdd ag un o’r amodau ad-dalu yn y pen draw.

Gall hyn gynnwys tystiolaeth o’r mewnbynnau, prosesu a’r allbynnau, megis:

  • cofnodion masnachol (er enghraifft, biliau deunyddiau, cofnodion stoc neu gofnodion cynhyrchu)
  • anfonebau
  • datganiadau tollau

Er enghraifft:

  1. Fe wnaethoch fewnforio cydrannau electronig i mewn i Ogledd Iwerddon a chodwyd tollau yr UE arnynt.
  2. Yna, gosodwyd y cydrannau electronig mewn gliniaduron.
  3. Yna ,cafodd y gliniaduron eu hallforio i wlad y tu allan i’r UE neu’r DU.

Yn yr enghraifft hon, byddai angen i chi roi tystiolaeth sy’n dangos mai’r cydrannau electronig y codwyd tollau’r UE arnynt yw’r rhai a osodwyd ac a allforiwyd fel rhan o’r gliniaduron.

Tystiolaeth ychwanegol a allai fod yn ofynnol os yw’ch nwyddau’n destun mesurau amddiffyn masnach yr UE

Os ydych am hawlio ad-daliad neu am ddileu ar y sail eich bod wedi gwerthu eich nwyddau i fusnes sydd wedi’i leoli ym Mhrydain Fawr neu wlad y tu allan i’r UE ar ôl 30 Mehefin 2023, ond bod eich nwyddau yn destun mesurau amddiffyn masnach yr UE, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • hysbysu’r prynwr
  • rhoi tystiolaeth o’r hysbysiad hwn pan fyddwch yn hawlio

Os ydych yn rhoi anfoneb werthiannau fel tystiolaeth i ategu’ch hawliad i ad-dalu neu ddileu, dylech gynnwys y naill neu’r llall o’r datganiadau hyn ar eich anfoneb:

‘Mae’r cynhyrchion [insert customs code] a gwmpesir gan yr anfoneb hon sy’n tarddu o [country of non-preferential origin] yn destun i’w hunain neu’n ymgorffori nwyddau sy’n destun mesurau amddiffyn masnach yn unol â [insert relevant regulation imposing measures] ar eu mewnforio yn yr UE.’

‘Mae’r cynhyrchion [insert customs code] a gwmpesir gan yr anfoneb hon, wedi’u llwytho o [country of original consignment to NI or GB], yn destun i’w hunain neu’n ymgorffori nwyddau sy’n destun mesurau amddiffyn masnach yn ôl [insert relevant regulation imposing measures] ar eu mewnforio yn yr UE.’

Hawliadau ar gyfer symudiadau lluosog

Gallwch wneud hawliad ‘swmp’ i gwmpasu symudiadau lluosog o nwyddau a ddatganwyd yn flaenorol ‘mewn perygl’ o ddod i mewn i’r UE a bodloni’r amodau a nodir yn yr arweiniad hwn.

Os byddwch yn cyflwyno hawliad swmp, caniateir uchafswm o 250 o lwythi unigol mewn un hawliad. Ar gyfer yr holl symudiadau sydd wedi’u cynnwys mewn hawliad swmp, mae’n rhaid i chi hawlio ar sail yr un cyflwr ad-dalu, fel manwerthu yng Ngogledd Iwerddon neu ddinistrio nwyddau yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd angen i chi gael y dystiolaeth berthnasol sy’n ymwneud â phob symudiad unigol o nwyddau a gwmpesir mewn hawliad swmp.

Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch am wneud hawliad swmp yn y senario canlynol:

  1. Fe wnaethoch sawl symudiad o nwyddau ‘mewn perygl’ i mewn i Ogledd Iwerddon.
  2. Cafodd yr holl nwyddau eu dinistrio yng Ngogledd Iwerddon.

Ni ellir cynnwys nwyddau sy’n destun mesur amddiffyn masnach yr UE mewn hawliad swmp.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I gyflwyno hawliad am ad-daliad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad
  • y cyfeirnod symud ar gyfer symudiadau sengl
  • prif gyfeirnod symud (hwn fydd y symudiad gyda’r gwerth uchaf) ar gyfer symudiadau swmp
  • taenlen sy’n cynnwys manylion y cyfeirnodau symud ychwanegol (ar gyfer hawliadau swmp) — gallwch lawrlwytho un o’r templedi ar y ffurflen neu gyflwyno un eich hun
  • eichrhif EORI GB neu XI
  • cofnod masnachol neu ddogfen fasnachol ar gyfer y nwyddau sy’n cael eu mewnforio
  • anfoneb fasnachol am y nwyddau sy’n cael eu mewnforio
  • swm y doll mewnforio a dalwyd i CThEF
  • swm y tollau y dylid bod wedi’u talu i ni
  • manylion y cyfrif banc
  • y dystiolaeth berthnasol i ategu’ch hawliad

Hawlio ar-lein

Bydd angen i chi mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).

Dechrau nawr

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau bod CThEF wedi cael y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod unigryw.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth pellach hyd nes y byddwn yn ysgrifennu atoch ynglŷn â’ch cais.

Ar ôl i chi hawlio

Byddwch yn cael hysbysiad unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo.

Os yw eich hawliad yn cael ei gymeradwyo:

  • byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi
  • efallai y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth ychwanegol ar gyfer rhai o’r symudiadau o fewn eich hawliad swmp
  • byddwn yn ad-dalu’r doll naill ai drwy drosglwyddiad banc neu diwygiad mis cyfredol (CMA)
Cyhoeddwyd ar 30 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 August 2023 + show all updates
  1. The what you will need section has been updated because you do not need form E2 and form C88 when you’re using the Customs Declaration Service.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.