Cyfraddau TAW

Y gyfradd TAW safonol yw 20%

Cyfraddau TAW ar gyfer nwyddau a gwasanaethau

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

% o TAW Ar gyfer beth mae’r gyfradd yn berthnasol
Cyfradd safonol 20% Y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau
Cyfradd is 5% Rhai nwyddau a gwasanaethau, er enghraifft, seddau car i blant ac ynni cartref
Cyfradd sero 0% Nwyddau a gwasanaethau cyfradd sero, er enghraifft, zy rhan fwyaf o fwyd a dillad plant

Cynyddodd y gyfradd TAW safonol i 20% ar 4 Ionawr 2011 (o 17.5%).

Mae rhai pethau’n esempt rhag TAW, fel stampiau post, trafodion ariannol a phrosiectau eiddo.

Mae’r gyfradd TAW y mae busnesau’n ei chodi yn dibynnu ar eu nwyddau a’u gwasanaethau.

Gwiriwch y cyfraddau TAW (yn agor tudalen Saesneg) ar nwyddau a gwasanaethau gwahanol.