Profiad gwaith a gwirfoddoli

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy am gyfleoedd sy’n gallu gwella eich cyfleoedd o ddod o hyd i waith, gan gynnwwys profiad gwaith, gwirfoddoli a threialon gwaith.

Efallai gallech gael help gyda chostau fel gofal plant a theithio.

Profiad gwaith

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Credyd Cynhwysol, gallwch gael profiad gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith.

Gall profiad gwaith barhau rhwng 2 ac 8 wythnos ac fel arfer bydd disgwyl i chi weithio rhwng 25 a 30 awr yr wythnos. Byddwch yn parhau i gael eich taliad JSA neu Gredyd Cynhwysol cyn belled â’ch bod yn parhau i chwilio am waith.

Efallai gallech hefyd yn medru cael help gan y Ganolfan Byd Gwaith am gostau sy’n gysylltiedig â phrofiad gwaith, er enghraifft ar gyfer teithio neu ofal plant.

Cydweithio (gwirfoddoli)

Os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith, gallwch wirfoddoli gyda sefydliad lleol drwy’r rhaglen Cydweithio. Bydd eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith yn eich helpu i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli.

Treialon gwaith

Mae treial gwaith yn rhoi’r cyfle i chi brofi swydd a pharhau i gael budd-daliadau. Gall bara am hyd at 30 diwrnod, ac efallai byddwch yn cael cynnig o swydd ar y diwedd.

Mae treialon gwaith yn wirfoddol, ac ni fydd eich budd-daliadau’n cael eu heffeithio os byddwch yn gorffen yn gynnar neu’n gwrthod swydd sy’n cael ei chynnig i chi.

Gall eich Canolfan Byd Gwaith drefnu treial gwaith i chi, neu gofynnwch iddynt am sut i wneud hyn eich hunain.

Gwaith ar Brawf

Mae Gwaith ar Brawf yn eich caniatáu i adael swydd a dechrau hawlio am Lwfans Ceisio Gwaith eto heb iddo effeithio ar eich budd-dal (oni bai y byddwch yn cael eich diswyddo neu’n gadael oherwydd camymddygiad.

Rhaid eich bod wedi gweithio mwy na 16 awr yr wythnos am rhwng 4 a 12 wythnos cyn gadael y swydd.