Gwneud cais ymlaen llaw am dreth cerbyd

Gallwch drethu eich cerbyd hyd at 2 fis cyn i’r dreth ddod i ben os ydych chi’n mynd i fod oddi cartref (er enghraifft, ar wyliau) pan fydd eich treth bresennol yn dod i ben.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwneud cais drwy’r post cyn ichi fynd

Bydd angen ichi anfon:

  • eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

  • llythyr yn egluro pam eich bod yn gwneud cais ymlaen llaw

  • cais am dreth cerbyd (V10W) wedi’i gwblhau neu gais i drethu cerbyd nwyddau trwm (V85W)

  • prawf o MOT ddilys - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un

  • tystysgrif prawf cerbyd nwyddau (GVT) wreiddiol (os oes angen un arnoch) - rhaid iddi fod yn ddilys pan fydd y dreth newydd yn dechrau

  • siec, archeb bost neu ddrafft banc i dalu am eich treth cerbyd sy’n daladwy i ‘DVLA Abertawe’ - ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi neu wedi’u newid

Yng Ngogledd Iwerddon bydd arnoch angen tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant a thystysgrif prawf MOT wreiddiol hefyd.

Anfonwch eich dogfennau a’ch taliad i:

DVLA
Abertawe
SA99 1DZ

Os nad ydych am drethu eich cerbyd ymlaen llaw

Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein tra byddwch oddi cartref. Bydd arnoch angen y canlynol:

  • rhif tystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log)

  • rhif cofrestru cerbyd

Dim ond o’r 5ed o’r mis y gallwch wneud hyn.

Enghraifft

Gallwch drethu ar-lein o 5 Mawrth os bydd eich treth cerbyd yn dod i ben ar 31 Mawrth.