Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais i bleidleisio drwy’r post yn:

  • etholiadau cyffredinol ac etholiadau eraill Senedd y DU
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys meiri)
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • refferenda
  • deisebau adalw Aelodau Seneddol

Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU cyn y gallwch wneud cais.

Ni allwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau ar 2 Mai 2024 mwyach. Gallwch wneud cais am bleidlais bost i’w defnyddio mewn etholiadau a refferenda yn y dyfodol o hyd.

Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw, dylech wneud cais am eich pleidlais bost drwy eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Mae ffordd wahanol o wneud cais:

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio
  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft, pasbort
  • dyddiad penodol yr etholiad neu’r refferendwm yr hoffech gael pleidlais drwy’r post ar ei gyfer, os mai dim ond unwaith yr hoffech gael pleidlais drwy’r post

Bydd angen i chi lanlwytho llun o’ch llofnod yn eich llawysgrifen eich hun mewn inc du ar bapur gwyn plaen.

Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, mae’n bosibl y gallwch wneud cais i hepgor y llofnod ar gyfer eich pleidlais drwy’r post o fewn y gwasanaeth.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ddogfennau ychwanegol i gadarnhau eich manylion.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post. Anfonwch y ffurflen i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol a all bostio ffurflen bapur atoch.

Os na allwch lofnodi ffurflen bapur, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol