Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

Gallwch gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (dirprwy) os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio eich hun.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn:

  • etholiadau cyffredinol ac etholiadau eraill Senedd y DU
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys meiri)
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • refferenda
  • deisebau adalw Aelodau Seneddol

Rhaid i chi a’ch dirprwy fod wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU cyn y gallwch wneud cais.

Mae ffordd wahanol o wneud cais:

Bydd angen i chi wneud cais erbyn 5pm ar 24 Ebrill 2024 er mwyn pleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiadau ar 2 Mai 2024.

Os byddwch yn colli’r dyddiad cau, mae’n bosibl y gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw, dylech wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy drwy eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Gofynnwch am ganiatâd eich dirprwy cyn gwneud cais.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu unrhyw ddogfen adnabod arall, er enghraifft, tystysgrif geni
  • y cyfeiriad lle mae eich dirprwy wedi cofrestru i bleidleisio
  • manylion cyswllt eich dirprwy

Bydd angen i chi lanlwytho llun o’ch llofnod yn eich llawysgrifen eich hun mewn inc du ar bapur gwyn plaen.

Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, mae’n bosibl y gallwch wneud cais i hepgor y llofnod ar gyfer eich pleidlais drwy ddirprwy o fewn y gwasanaeth.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy.

Anfonwch y ffurflen i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Diweddaru manylion pleidlais drwy

Cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.