Skip to main content

Gwasanaeth Eithriad Taliadau

Mae’r Gwasanaeth Eithriad Taliadau yn caniatáu i chi gasglu taliadau budd-daliadau neu bensiwn heb gyfrif banc.

Dim ond os na allwch agor cyfrif banc y mae’r gwasanaeth ar gael.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut i gael eich arian

Anfonir un o’r canlynol atoch:

  • cerdyn talu
  • e-bost gyda chod taleb
  • neges destun gyda chod taleb

Gallwch gasglu eich taliad yn ystod oriau agor:

  • unrhyw safle PayPoint
  • unrhyw Swyddfa Bost

Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn neu god taleb.

Dod o hyd i safle PayPoint yn agos atoch.

Dod o hyd i Swyddfa Bost yn agos atoch.

Rhaid i chi gasglu eich taliad o fewn 90 diwrnod iddo gael ei anfon atoch. Os na wnewch chi, bydd y taliad yn dod i ben a bydd yn rhaid i chi ofyn i’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal neu bensiwn ei anfon eto.

Faint o arian y gallwch chi ei gasglu

Gallwch gasglu’r swm llawn sy’n ddyledus i chi mewn un ymweliad. Mae pob taliad yn uchafswm o £100 ond gallwch gasglu mwy nag un taliad ar y tro. I gasglu swm dros £100, defnyddiwch eich cerdyn fwy nag unwaith yn ystod eich ymweliad neu defnyddiwch fwy nag un cod taleb.

Bydd angen bod gan y safle digon o arian parod yn eu til.

Profi eich hunaniaeth

Bydd angen i chi ddangos un ddogfen wreiddiol fel prawf o’ch hunaniaeth - ni dderbynnir copïau.

Er enghraifft, gallech ddefnyddio:

  • trwydded yrru ddilys gyda llun neu bapur yn y DU
  • pasbort cyfredol
  • bil ffôn nwy, trydan, dŵr neu linell dir cyfredol (llai na 3 mis oed)
  • bil treth gyngor
  • cytundeb tenantiaeth
  • llythyr gan DWP neu’ch cyngor (llai na 3 mis oed) yn cadarnhau eich bod yn cael budd-dal

Cael rhywun arall i gasglu’ch arian

Os ydych chi eisiau i rywun gasglu’ch arian ar eich rhan, bydd angen y canlynol arnynt:

  • eich cerdyn talu neu daleb
  • eich prawf adnabod
  • eu prawf adnabod

Os na all rhywun reoli eu materion eu hunain

Gallwch wneud cais i ddod yn benodai ar gyfer rhywun os na allant reoli eu materion eu hunain. Byddwch yn cael cerdyn talu i’w ddefnyddio ar eu rhan, a byddwch yn gyfrifol am roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau.

Os byddwch yn colli’ch cerdyn talu neu os yw wedi’i ddifrodi

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Eithriadau Taliadau.

Bydd eich cerdyn yn cael ei rwystro a byddwch yn cael un newydd.

Bydd taleb hefyd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost neu neges destun i wneud yn siŵr nad ydych yn colli allan ar unrhyw daliadau.

Os oes angen help arnoch

Os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth neu os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Eithriadau Taliadau.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Eithriadau Taliadau

Gwasanaeth Eithriadau Taliadau
Ffôn: 0800 015 2902
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 8pm
Dydd Sadwrn, 8am i 6pm
Dydd Sul, 10am i 4pm
Gwyliau banc yng Nghymru a Lloegr, 9am i 6pm
Dysgwch am gostau galwadau