Cyfarwyddyd

Chwythu'r chwiban: canllawiau i weithwyr elusennau

Gallwch adrodd i'r Comisiwn Elusennau am bryderon ynghylch camweithredu difrifol mewn elusen rydych yn gweithio iddi.

Elusennau a chwythu’r chwiban: pwyntiau allweddol

Gall gweithwyr elusennau adrodd am bryderon ynghylch rhai categorïau o gamweithredu difrifol yn eu helusen i’r Comisiwn Elusennau.

Mae’r comisiwn yn gofyn i adroddiadau chwythu’r chwiban gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig trwy’r cyfeiriad e-bost chwythu’r chwiban penodedig.

Mae rhywfaint o ddiogelwch cyfreithiol gan y gweithwyr hyn o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (y Ddeddf) rhag triniaeth niweidiol neu fictimeiddio gan eu cyflogwr os ydynt, er lles y cyhoedd, yn adrodd am bryderon ynghylch camweithredu difrifol yn eu helusen i’r comisiwn, ar yr amod bod y pryderon y maent yn eu hadrodd yn bodloni’r amodau yn y Ddeddf ar gyfer ‘datganiad gwarchodedig’.

Pwy mae’r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd yn ei ddiogelu

Mae’r Ddeddf yn diogelu’r rhan fwyaf o weithwyr yn y sector elusennol sy’n adrodd i’r comisiwn am bryderon ynghylch rhai materion difrifol am eu cyflogwr. Nid yw’r Ddeddf yn gymwys i:

  • weithwyr proffesiynol gwirioneddol hunangyflogedig (heblaw yn y GIG)
  • gweithwyr gwirfoddol - mae hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr elusen (a ddylai adrodd am bryderon trwy adrodd am ddigwyddiadau difrifol) a gwirfoddolwyr elusennol.

Sut mae’r Ddeddf yn diogelu gweithwyr yr elusen

Mae’r Ddeddf yn diogelu gweithwyr mewn sawl ffordd, er enghraifft:

  • os yw gweithiwr elusen yn cael ei ddiswyddo oherwydd ei fod wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, caiff hyn ei drin fel diswyddo annheg
  • mae hawl ganddynt i beidio â dioddef unrhyw ‘niwed’ gan eu cyflogwyr ar y sail eu bod wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, a chyflwyno cwyn i dribiwnlys cyflogaeth os ydynt yn dioddef niwed oherwydd eu bod wedi gwneud datgeliad gwarchodedig.

Pa fath o ddatgeliadau sydd wedi’u gwarchod

Ar gyfer datgeliad i’r comisiwn ynghylch elusen sydd i’w diogelu gan ddarpariaethau’r Ddeddf:

  • mae’n rhaid iddo ymwneud ag o leiaf un o’r materion canlynol sy’n ‘gymwys’ i’w ddiogelu:
    • trosedd
    • torri rhwymedigaeth gyfreithiol
    • aflwyddiant cyfiawnder
    • perygl i iechyd a diogelwch unrhyw unigolyn
    • niwed i’r amgylchedd
    • cuddio gwybodaeth yn fwriadol sy’n tueddu i ddangos unrhyw un o’r pum mater uchod
  • rhaid i’r gweithiwr:
    • gredu’n rhesymol bod y methiant perthnasol yn ymwneud â ‘gweinyddu elusennau a chronfeydd a roddir, neu a ddelir at ddibenion elusennol mewn modd priodol’
    • credu’n rhesymol bod yr wybodaeth a ddatgelir ac unrhyw honiad sydd wedi’i gynnwys ynddo yn hollol wir

Dylid nodi os yw gweithiwr yn cael ei fictimeiddio am wneud datgeliad i’r comisiwn, mae unrhyw honiad sydd ganddo neu ganddi o dan y Ddeddf yn honiad yn erbyn y cyflogwr ac nid yn erbyn y comisiwn.

Sut mae’r comisiwn yn delio â datgeliadau gan chwythwyr chwiban

Mae’r comisiwn yn ystyried datgeliadau chwythu’r chwiban yn yr un ffordd ag y mae’n ystyried cwynion am elusennau o ffynonellau eraill.

Mae canllawiau’r comisiwn Cwynion am elusennau yn esbonio yn gyffredinol beth sy’n digwydd pan fydd pryder yn cael ei godi gyda’r comisiwn, ac mae’n rhoi enghreifftiau o’r pwerau sydd ganddo i ymchwilio i’r pryderon hynny ac unioni materion. Wrth gwrs, bydd y camau gweithredu y bydd y comisiwn yn eu cymryd o ganlyniad i’r pryderon sydd wedi dod at ei sylw yn dibynnu ar natur y pryderon hyn.

Bydd y comisiwn yn parchu cyfrinachedd cyn belled ag y gall, gan roi sylw dyledus i hawliau’r unigolyn i breifatrwydd o dan ddeddfwriaeth diogelu data a hawliau dynol. Fodd bynnag, mae hawl gan rywun sy’n destun unrhyw ymholiadau a wnaed gan y comisiwn i wybod natur yr honiadau sy’n cael eu gwneud. Mae hawl gan unrhyw un sy’n cael ei feirniadu gan y comisiwn o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad gael gwybod am natur y dystiolaeth y mae’r feirniadaeth wedi cael ei seilio arni.

Er y bydd y comisiwn yn cymryd pob cam posibl i geisio sicrhau nad yw’r achwynydd yn cael ei enwi heb ei ganiatâd, mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd natur yr honiadau neu’r dystiolaeth yn awgrymu’r ffynhonnell. Hefyd, mewn achosion prin gall fod rheidrwydd i ddatgelu gwybodaeth o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth neu gan orchymyn y llys mewn achos cyfreithiol.

Gall gwybodaeth a gafwyd yn ystod ymchwiliad a wnaed o dan adran 46 o Ddeddf Elusennau 2011 gael ei chyhoeddi er lles y cyhoedd mewn adroddiad ymchwiliad.

Cymorth a chyngor i chwythwyr chwiban posibl

Mae’r elusen Public Concern at Work yn darparu cyngor cyfrinachol am ddim i weithwyr sydd â phryderon am gamweithredu yn y gweithle. Cysylltwch â’r elusen ar 020 7404 6609.

Published 12 Hydref 2015