Beth i'w ddisgwyl os ydych yn y cynllun peilot rhwymedi ariannol cyflym
Darganfyddwch a yw’ch achos yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot rhwymedi ariannol cyflym a beth i’w ddisgwyl yn y gwrandawiadau.
Trosolwg
Bydd y cynllun peilot rhwymedi ariannol cyflym yn ceisio datrys achosion rhwymedi ariannol a wrthwynebir yn gynt, trwy gael uchafswm o 2 wrandawiad yn lle 3.
Efallai y bydd eich achos yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot hwn os yw cyfanswm eich asedau net cyfunol chi a’r partïon eraill yn werth llai na £250,000. Nid yw hyn yn cynnwys:
- rhwymedigaethau
- morgeisi
- hawliau pensiwn
- Hawl iawndal o’r Gronfa Diogelu Pensiynau
Byddwch yn cael eich cynnwys yn y peilot yn awtomatig os:
- rydych yn dweud wrthym ar ffurflen A yr amcangyfrifir bod eich asedau net cyfunol chi a’r partïon eraill werth £250,000 neu lai
- byddwch yn llenwi ffurflen A rhwng 7 Ebrill 2025 a 3 Ebrill 2026
- bod eich achos yn cael ei ddyrannu i lys rhwymedi ariannol sy’n cymryd rhan yn y peilot
Llysoedd sy’n cymryd rhan yn y peilot
Swydd Gaer a Glannau Mersi
- Penbedw
- Caer
- Crewe
- Lerpwl
- St Helens
Cleveland, Newcastle and Durham
- Darlington
- Durham
- Gateshead
- Middlesborough
- Newcastle Upon Tyne
- North Shields
- South Shields
- Sunderland
Manceinion Fwyaf
- Manceinion
- Wigan
Swydd Gaerhirfryn a Cumbria
- Barrow in Furness
- Blackburn
- Blackpool
- Caerliwelydd
- Caerhirfryn
- Leyland
- Preston
- Reedley
- Gorllewin Cumbria
North and West Yorkshire
- Bradford
- Harrogate
- Huddersfield
- Leeds
- Scarborough
- Skipton
- Wakefield
- Efrog
Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Birmingham
Cyn y gwrandawiad cyntaf
Bydd y llys yn anfon hysbysiad o wrandawiad cyntaf (ffurflen C) atoch chi a’r atebydd. Bydd y gwrandawiad cyntaf yn wrandawiad datrys anghydfod ariannol.
Bydd yr hysbysiad yn dweud wrthych:
- pryd a ble y cynhelir y gwrandawiad
- pa ddogfennau y mae’n rhaid i chi eu hanfon i’r llys cyn y gwrandawiad
Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal rhwng 16 ac 20 wythnos ar ôl i ffurflen A gael ei derbyn gan y llys. Bydd y gwrandawiad yn cymryd o leiaf 1 awr, ond bydd angen i chi a’r atebydd fod ar gael yn y llys am y diwrnod cyfan. Mae hyn oherwydd y gall gymryd hyd at ddiwrnod llawn weithiau i’r llys gwblhau’r gwrandawiad.
Beth i’w ddisgwyl yn y gwrandawiad cyntaf
Bydd y barnwr yn:
- adolygu’r dogfennau rydych chi a’r atebydd wedi’u darparu
- annog y ddau ohonoch i ddod i gytundeb
- rhoi canlyniad tebygol yr achos
Os byddwch yn dod i gytundeb
Os byddwch chi a’r atebydd yn cytuno ar setliad ariannol, bydd y barnwr yn gwneud cofnod o’ch cytundeb. Bydd disgwyl i chi wneud cais am orchymyn cydsynio i’r barnwr ei gymeradwyo.
Mae’n costio £53 i wneud cais am orchymyn cydsynio. Gallwch naill ai wneud cais yn y gwrandawiad, neu ar ôl y gwrandawiad drwy’r post.
Mae gorchymyn cydsynio yn fath o orchymyn ariannol sy’n gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol. Golygai hyn:
- gall y llys orfodi’r cytundeb os oes unrhyw broblemau
- ni allwch chi na’r atebydd wneud unrhyw hawliadau eraill yn erbyn arian eich gilydd ar ôl i’ch priodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben
Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am orchymyn cydsynio..
Os ydych wedi dod i gytundeb, ni fydd angen i chi fynychu’r gwrandawiad terfynol.
Os na fyddwch yn dod i gytundeb
Bydd y llys yn rhestru eich achos ar gyfer gwrandawiad terfynol.
Bydd y barnwr yn dweud wrthych sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad terfynol.
Cyn y gwrandawiad terfynol
Bydd angen i chi a’r atebydd ddrafftio a chyfnewid cynigion agored o fewn 7 diwrnod i’r gwrandawiad cyntaf. Mae cynnig agored yn ddogfen sy’n dweud wrth y barnwr pa setliad ariannol yr ydych yn barod i gytuno arno gyda’r atebydd.
Cyn y gwrandawiad terfynol, gall y barnwr:
- ofyn i chi am ragor o wybodaeth am eich cynnig agored
- roi cyfarwyddiadau i chi y mae’n rhaid i chi eu dilyn cyn y gwrandawiad terfynol
Os hoffech gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i baratoi ar gyfer y gwrandawiad terfynol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyngor cyfreithiol yn y llys.
Beth i’w ddisgwyl yn y gwrandawiad terfynol
Bydd y gwrandawiad terfynol yn cael ei gynnal rhwng 26 ac 30 wythnos ar ôl i ffurflen A gael ei derbyn gan y llys. Bydd y gwrandawiad yn para un diwrnod fel arfer.
Bydd y barnwr yn penderfynu ar ganlyniad eich cais ariannol ac yn gwneud gorchymyn terfynol. Mae’r gorchymyn yn ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau penderfyniad y llys.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r llys yn gwneud ei benderfyniad.
Gwneud cais i adael y cynllun peilot
Os ydych wedi llenwi ffurflen A a’ch bod chi neu’r atebydd yn meddwl na ddylai eich achos fod yn rhan o’r peilot, gallwch wneud cais i adael y peilot. Bydd angen i chi lenwi ffurflen D11 i ofyn i’r llys dynnu eich achos o’r peilot.
Os bydd y llys yn cytuno nad yw eich achos yn addas mwyach, bydd y llys yn:
- tynnu eich achos o’r peilot
- anfon amserlen newydd atoch ar gyfer eich achos gan gynnwys dyddiad newydd ar gyfer gwrandawiad cyntaf