Defnyddio darparwr meddalwedd i baratoi cyfrifon pecyn ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Rhestr o ddarparwyr meddalwedd y gallwch eu defnyddio i baratoi mathau penodol o gyfrifon pecyn arbenigol, fel cyfrifon is-gwmni sydd wedi’u heithrio rhag archwiliad.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddarparwyr meddalwedd y gallwch eu defnyddio i baratoi cyfrifon pecyn, fel y gallwch wedyn ffeilio cyfrifon pecyn gyda Thŷ’r Cwmnïau ar-lein.
Ynglŷn â chyfrifon pecyn
Mae cyfrifon pecyn yn gyflwyniadau cyfrifon sy’n cynnwys mwy nag un gydran. Gallai hyn fod yn becyn sy’n cynnwys mwy nag un set o gyfrifon, neu gyfrifon sy’n cynnwys ffurflen Tŷ’r Cwmnïau.
Rhaid cadw cyfrifon pecyn mewn fformat ffeil ZIP a’u tagio ag iXBRL gan ddefnyddio meddalwedd.
Gallwch ffeilio cyfrifon pecyn ar-lein ar gyfer:
- cwmnïau budd cymunedol (CICs)
- cyfrifon is-gwmni sydd wedi’u heithrio rhag archwiliad
- cyfrifon is-gwmni segur sydd wedi’u heithrio
- partneriaethau cyfyngedig
- cyfrifon UKSEF ar gyfer cwmnïau rhestredig
- cyfrifon pecyn grŵp - adran 400, rhiant-gwmni wedi’i gorffori o dan gyfraith y DU
- cyfrifon pecyn grŵp - adran 401, rhiant-gwmni wedi’i gorffori o dan gyfraith nad yw’n perthyn i’r DU
- cyfrifon Cymraeg gyda chyfieithiad Saesneg
Gweler y canllawiau ar baratoi a ffeilio cyfrifon ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Rhestr o ddarparwyr meddalwedd ar gyfer cyfrifon pecyn
Rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd addas i baratoi cyfrifon pecyn. Bydd hyn yn eich galluogi i gadw’r cyfrifon mewn fformat ffeil ZIP, sef y fformat sydd ei angen arnoch i ffeilio cyfrifon pecyn gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Os oes angen i chi baratoi cyfrifon pecyn ar gyfer CICs, gallwch ddod o hyd i feddalwedd ar gyfer ffeilio cyfrifon cwmni.
Gallwch ddefnyddio’r darparwyr meddalwedd canlynol i baratoi mathau eraill o gyfrifon pecyn.
| Cyflenwr | Enwau cynhyrchion | Opsiynau talu | Noweddion hygyrchedd | Cyfrifon pecyn |
|---|---|---|---|---|
| ARKK | Gwasanaethau Tagio ARKK iXBRL | Dd/B | Ie | Pecynnau UKSEF, partneriaeth gyfyngedig, is-gwmni sydd wedi’i eithrio rhag archwiliad ac is-gwmni segur sydd wedi’i eithrio rhag archwiliad |
| ARKK | Addasydd Tagio ARKK iXBRL | Lluosog | Na | Partneriaeth gyfyngedig, cyfrifon Cymraeg (gyda chyfieithiad Saesneg), pecynnau is-gwmni sydd wedi’u heithrio rhag archwiliad ac is-gwmni segur sydd wedi’u heithrio rhag archwiliad |
| Ayiza | 1Touch | Lluosog | Na | UKSEF, partneriaeth gyfyngedig, is-gwmni sydd wedi’i eithrio rhag archwiliad, is-gwmni segur sydd wedi’i eithrio rhag archwiliad, cyfrifon pecyn grŵp (adran 400 o Ddeddf Cwmnïau 2006) |
| Efile Ready Ltd | Gwasanaethau eReturn a Thagio UKSEF | Lluosog | Na | UKSEF |
Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn cymeradwyo nac yn argymell cynhyrchion penodol. Cysylltwch â’r darparwyr yn uniongyrchol am gymorth neu arweiniad.