Canllawiau

Costau gofal plant Credyd Cynhwysol

Os ydych yn talu am ofal plant tra rydych yn mynd i'r gwaith, gall Credyd Cynhwysol dalu rhai o'ch costau gofal plant.

Applies to England, Scotland and Wales

Os ydych yn talu am ofal plant tra rydych yn mynd i’r gwaith, gall Credyd Cynhwysol dalu rhai o’ch costau gofal plant. Mae hyn yn cynnwys clybiau gwyliau, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau brecwast. Os ydych yn byw gyda phartner, mae angen i’r ddau ohonoch fod yn gweithio, oni bai na all eich partner ofalu am eich plant.

Sut mae taliadau costau gofal plant yn gweithio ar Gredyd Cynhwysol

Mae’n rhaid i chi dalu am eich costau gofal plant eich hun. Yna rydych yn rhoi gwybod i Gredyd Cynhwysol amdanynt, ac mae Credyd Cynhwysol yn talu rhywfaint o’r arian yn ôl.

Mewn gwirionedd dim ond ar ôl i’r gofal plant ddigwydd y cewch yr arian yn ôl.

Os ydych yn talu am ofal plant ar ôl iddo gael ei ddarparu, rydym yn ad-dalu eich costau yn yr un mis ag y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt.

Gallwch wneud cais am hyd at 3 mis o gostau gofal plant yn y gorffennol ar y tro - ond os ydych yn gwneud cais am fwy na mis efallai na fyddwch yn cael yr holl arian yn ôl.

Gallwch hefyd wneud cais am hyd at 3 mis o gostau gofal plant yn y dyfodol ar y tro. Rydym yn talu’r costau hyn yn ôl fesul mis - nid mewn un cyfandaliad.

Mae taliadau am gostau gofal plant wedi’u cynnwys yng nghyfanswm eich taliad Credyd Cynhwysol misol. Gall cyfanswm y taliad hwnnw godi neu ostwng, yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill o’r gwaith. Felly, os ydych yn ennill mwy nag arfer un mis, gallai cyfanswm eich taliad Credyd Cynhwysol ostwng, gan gynnwys y swm a gewch am gostau gofal plant.

Faint allwch chi ei gael

Gallwch gael hyd at 85% o gostau gofal plant wedi’u talu’n ôl i chi. Yr uchafswm y mis yw:

  • £1,014.63 i un plentyn
  • £1,739.37 ar gyfer 2 blentyn neu fwy

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld faint y gallech ei gael.

Cael help gyda chost ymlaen llaw o ofal plant

Mae angen i chi dalu am ofal plant yn gyntaf. Os na allwch dalu’r gost honno ymlaen llaw, efallai y gallwch gael help gyda hynny hefyd. Holwch am:

  • arian o’r Gronfa Gymorth Hyblyg (nid oes angen i chi dalu hyn yn ôl)
  • taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol (mae’n rhaid i chi dalu hyn yn ôl)

Pwy sy’n gymwys i gael costau gofal plant Credyd Cynhwysol

Mae angen i chi fod naill ai:

  • mewn gwaith cyflogedig
  • yn dechrau swydd yn y mis nesaf

Os ydych yn byw gyda phartner, mae angen i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith cyflogedig, oni bai na all eich partner ofalu am eich plant.

Does dim ots faint o oriau rydych chi’n gweithio – does dim isafswm.

Rhaid iddo fod yn waith â thâl, felly nid ydych yn gymwys os ydych yn gwirfoddoli a dim ond yn cael arian am dreuliau.

Os ydych ar absenoldeb salwch, efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol

Os ydych ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael un o’r canlynol:

  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Rhiant a Rennir Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Lwfans Mamolaeth

Gallwch weud cais am gostau gofal plant ar gyfer yr holl blant rydych yn gyfrifol amdanynt, tan 31 Awst ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed.

Os nad yw eich partner yn gweithio ond na allant ofalu am eich plant

Gallwch barhau i wneud cais am gostau gofal plant os yw’ch partner:

  • â chyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu bod ganddynt allu cyfyngedig i weithio (LCW) neu allu cyfyngedig ar gyfer gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)
  • yn gofalu am berson ag anabledd difrifol (ac yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr)
  • yn gorfod bod oddi cartref dros dro, er enghraifft yn yr ysbyty

Beth all costau gofal plant eu cwmpasu

Rhaid i’ch gofal plant fod gyda darparwyr gofal plant ‘cofrestredig’.

Fel arfer, mae hynny’n golygu eu bod wedi cofrestru gydag OFSTED, yr Arolygiaeth Gofal yn yr Alban neu Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gallai hynny gynnwys meithrinfeydd, cyn-ysgol, clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, gwarchodwyr plant, nanis a chlybiau gwyliau.

Bydd Credyd Cynhwysol yn talu am gostau gofal plant ‘rhesymol’ sy’n eich helpu i weithio neu i gael gwaith. Gallai hynny gynnwys:

  • ‘cyfnod ymgartrefu’ cyn i chi ddechrau gweithio, fel y gall eich plentyn ddod i arfer â bod mewn gofal plant
  • gofal plant tra rydych yn teithio i’r gwaith
  • gofal plant yn y mis ar ôl i chi golli swydd

Gellir hefyd ystyried gofal plant ar gyfer newid patrymau gwaith neu gontractau dim oriau i fod yn ‘rhesymol’.

Er enghraifft, os oes rhaid i chi dalu costau gofal plant fel eich bod ar gael i weithio eich oriau arferol, ac yna rydych mewn gwirionedd yn cael llai o oriau gwaith nag yr oeddech yn ei ddisgwyl, ystyrir bod hynny’n ‘rhesymol’.

Sut i roi gwybod am eich costau gofal plant

Fel arfer, byddwch yn rhoi gwybod am eich costau gofal plant yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Gallwch wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, neu ar unrhyw adeg yn eich cais.

Rhowch wybod iddynt cyn gynted ag y byddwch yn talu amdanynt. Os byddwch yn ei adael am fwy na 2 fis, efallai na fyddwch yn cael yr arian yn ôl.

Tystiolaeth ar gyfer eich costau gofal plant

Bydd angen i chi gael prawf o’ch darparwr gofal plant a’ch taliadau.

Fel prawf o’ch darparwr, mae angen contract, anfoneb neu lythyr arnoch gan ddangos y rhain i gyd:

  • eu henw, eu rhif cofrestru, eu cyfeiriad a’u rhif ffôn
  • enwau eich plant y maent yn gofalu amdanynt
  • y math o ofal plant, er enghraifft gofal ar ôl ysgol neu ofal meithrin

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn fesul darparwr.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am gael gweld prawf o’ch taliad yn dangos:

  • dyddiadau’r gofal plant y gwnaethoch dalu amdano
  • faint wnaethoch chi ei dalu
  • y dyddiad y gwnaethoch y taliad

Gallwch ddarparu anfoneb wedi’i dalu sy’n dangos hyn i gyd, neu gyfuniad o:

  • cyfriflenni banc
  • derbynebau gan y darparwr
  • anfonebau gan y darparwr

Sut mae gofal plant Credyd Cynhwysol yn gweithio gyda chynlluniau costau gofal plant eraill y llywodraeth

Efallai y gallwch ddefnyddio un o’r cynlluniau costau gofal plant eraill – gwiriwch pa gymorth y gallwch ei gael i dalu am ofal plant.

Ni allwch gael gofal plant di-dreth os ydych ar Gredyd Cynhwysol.

Cysylltu â Chredyd Cynhwysol

Os oes ydych angen help i wirio a ydych yn gymwys i gael costau gofal plant, gallwch:

Cyhoeddwyd ar 27 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 April 2024 + show all updates
  1. From 8 April 2024 the most you can get back each month for childcare costs is £1,014.63 for one child and £1,739.37 for 2 or more children.

  2. Updated the maximum amounts you can get towards childcare costs to £950.92 a month for one child and £1,630.15 a month for 2 or more children. Updated guidance on getting help with upfront childcare costs through the Flexible Support Fund. You can now get any payment for childcare costs you’re eligible for with your Universal Credit payment for the same month you get help from the Flexible Support Fund.

  3. Added a link to a survey about the information on the page - we’ll use what you tell us to improve the page.

  4. Added translation