Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am dreth a dandalwyd o flynyddoedd blaenorol

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i roi gwybod i CThEF am incwm neu enillion o flynyddoedd treth blaenorol nad ydych wedi’u datgan.

Gwnewch ddatgeliad am incwm neu enillion, artraeth ac alltraeth, o flynyddoedd treth blaenorol nad ydych wedi’u datgan.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn un o’r canlynol:

  • unigolyn
  • aelod dynodedig o gwmni cyfyngedig
  • ymddiriedolwr ymddiriedolaeth
  • cynrychiolydd ystâd
  • swyddog cwmni
  • asiant

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch yr arweiniad ynghylch gwneud datganiad (yn agor tudalen Saesneg). Mae hwn yn esbonio sut i baratoi’ch datgeliad a beth i’w ddisgwyl

Gallwch ddefnyddio un o’r cyfrifianellau canlynol i’ch helpu i gyfrifo’r dreth, y llog a’r cosbau sydd arnoch os yw’ch materion treth yn syml, a bod dim ond gennych hawl i lwfansau personol sylfaenol:

Gallwch gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.

Os nad oes angen i chi wneud datgeliad mwyach, ffoniwch y llinell gymorth ar gyfer datgeliadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn gwneud datgeliad, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf.

Os oes un gennych yn barod, bydd hefyd angen y canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich rhif cofrestru TAW
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • cyfeirnod eich achos

Gwneud datgeliad

Dechrau nawr

Cyhoeddwyd ar 6 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 April 2024 + show all updates
  1. The interest and penalty calculators have been updated.

  2. The tax, interest and penalties calculators have been updated.

  3. Welsh translation has been added.

  4. Added translation