Canllawiau

Cyflwyno hysbysiad mynediad ar gyfer Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn

Defnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud hysbysiad mynediad i CThEF os ydych yn asiant neu’n sefydliad.

Mae’r Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF) yn gynllun contractiol heb ei awdurdodi yn y DU ar gyfer cynlluniau perchnogaeth ar y cyd sy’n bodloni’r amodau cymhwysol.
Mae’r RIF ar gael i fuddsoddwyr proffesiynol a sefydliadol.

Amlinellir y rheolau ynghylch yr amodau cymhwysol a’r amgylchiadau pan fydd angen i chi roi gwybod i ni yn y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025.

Pwy all gael mynediad at y gyfundrefn RIF

Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwysol ar y dyddiad y bydd eich cynllun yn dechrau gweithredu fel RIF, gallwch gael mynediad at y gyfundrefn drwy wneud hysbysiad mynediad.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn cwblhau’r hysbysiad mynediad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • manylion y cynllun, gan gynnwys Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth gweithredwr y cynllun (os oes un ganddo)
  • dyddiad dechrau
  • y dyddiad y daw cyfnod cyfrifyddu i ben
  • enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr

Os yw’r cynllun yn bodloni’r amodau cymhwysol

I ddangos bod y cynllun yn bodloni’r amodau cymhwysol, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:

  • ei fod yn gynllun perchnogaeth ar y cyd
  • ei fod yn Gronfa Buddsoddi Amgen
  • bod cymryd rhan ynddo wedi’i gyfyngu i fuddsoddwyr proffesiynol neu fuddsoddwyr mawr
  • ei fod wedi’i leoli yn y DU
  • ei fod yn bodloni gofynion o ran perchnogaeth a chyfyngiadau

Bydd yn rhaid i chi wybod y canlynol hefyd:

  • sut mae’r cynllun yn bodloni gofynion o ran perchnogaeth
  • pa amodau o ran cyfyngiadau y mae’r cynllun neu’r is-gynllun yn eu bodloni

Os yw’r cynllun yn trin amodau penodol fel petaent wedi’u bodloni

Os yw’r cynllun yn trin naill ai’r gofyniad perchnogaeth neu’r amod dwysedd eiddo yn y DU fel petai wedi’i fodloni, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:

  • pa amodau y mae’r cynllun yn eu trin fel petaent wedi’u bodloni
  • enwau unrhyw is-gynlluniau sy’n dibynnu ar yr amod dwysedd eiddo yn y DU yn cael ei drin fel petai wedi’i fodloni
  • a yw unrhyw rai o’r cynlluniau neu’r is-gynlluniau hyn:

    • wedi bod yn RIF o’r blaen
    • wedi bod yn gynllun contractiol awdurdodedig
    • wedi cyhoeddi unrhyw uned am unrhyw beth ar wahân i arian

Mae’n rhaid i chi gadarnhau bod y cynllun neu’r is-gynllun:

  • yn bwriadu ac yn rhesymol ddisgwyl i fodloni’r gofynion cyn pen 12 mis
  • wedi cymryd camau i’w bodloni, neu y bydd yn cymryd camau i wneud hynny

Mae angen i chi roi manylion ar gyfer y camau rydych wedi’u cymryd neu y byddwch yn eu cymryd.

Gwneud hysbysiad mynediad

Ar-lein

Bydd angen i chi uwchlwytho ffurflen 64-8 neu lythyr o awdurdod os ydych yn asiant neu’n rheolwr sy’n llenwi’r ffurflen ar ran gweithredwr y cynllun.

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.

Dechrau nawr

Byddwch yn cael cadarnhad pan fyddwch yn cyflwyno’ch hysbysiad mynediad.

Byddwn yn anelu at brosesu hyn cyn pen 15 diwrnod gwaith.

E-bost neu drwy’r post

Gallwch gyflwyno’ch hysbysiad drwy e-bost neu ei anfon drwy’r post os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

  1. Lawrlwythwch Reserved Investor Fund (RIF) Entry notification (PDF, 811 KB, 5 o dudalennau) (yn agor tudalen Saesneg) a’i chadw.
  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim (yn agor tudalen Saesneg).
  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Ble i anfon yr hysbysiad mynediad

E-bostiwch y ffurflen hysbysiad i cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc).

Os na allwch e-bostio’r ffurflen, gallwch ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post at:

Collective Investment Schemes Centre (CISC) 
Wealthy/Mid-size Business Compliance 
HM Revenue & Customs 
BX9 1HT

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Awst 2025

Argraffu'r dudalen hon