Gwneud hysbysiad o newid ar gyfer Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Defnyddio’r gwasanaeth hwn i anfon hysbysiad o newid i CThEF os ydych yn asiant neu’n sefydliad.
Os oes newidiadau i’r Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF), mae’n bosibl y bydd angen i chi rhoi gwybod i CThEF.
Pa newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod i ni amdanynt
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- pan fo’r cynllun yn penderfynu gadael y gyfundrefn (gelwir hyn yn hysbysiad gadael)
- pan fo’r cynllun yn torri un neu fwy o’r amodau cymhwyso ac yn stopio bod yn RIF
- pan fo’r cynllun wedi torri amodau’r gofyniad o ran perchnogaeth ac nid yw’n disgwyl unioni’r toriad yn yr amodau cyn pen 9 mis i’r toriad hwnnw
- pan fo’r cynllun wedi torri amodau’r gofyniad o ran cyfyngiad ac nid yw’n disgwyl unioni’r toriad yn yr amodau cyn pen 9 mis i’r toriad hwnnw
- pan fo’r cynllun wedi bod yn trin y gofyniad o ran perchnogaeth fel petai wedi’i fodloni, ond nid yw’n disgwyl bodloni’r gofyniad hwn mwyach yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 mis ers y dyddiad pan ddaeth y cynllun yn RIF
- pan fo’r cynllun wedi bod yn trin yr amod o ran bod â chyfoeth o eiddo yn y DU fel petai wedi’i fodloni, ond nid yw’n disgwyl bodloni’r amod hwn mwyach yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 mis ers y dyddiad pan ddaeth y cynllun yn RIF
- pan fo’r cynllun yn newid yr amod y mae’r RIF neu is-gynllun yn dibynnu arno er mwyn bodloni’r gofyniad o ran cyfyngiad
- pan fo’r cynllun yn gynllun ambarél sy’n sefydlu is-gynllun neu sy’n dirwyn is-gynllun presennol i ben
Pan fydd angen i chi roi gwybod i ni am newid
Mae’n rhaid i chi wneud hysbysiad o fewn y terfyn amser ar gyfer pob math o newid.
Fel arfer, mae hyn cyn pen 30 diwrnod i’r newid hwn. Mewn rhai achosion, mae hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol o’r newid.
Gallwch ddysgu pryd y mae angen i chi roi gwybod i ni am bob newid yn adran 6 o reolau treth ar gyfer Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF) – nodiadau technegol (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn cwblhau’r hysbysiad o newid, bydd angen y canlynol arnoch:
- manylion y cynllun, gan gynnwys Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth gweithredwr y cynllun (os oes un ganddo)
- enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr
Os yw’r cynllun yn dod i ben wrth roi hysbysiad gadael
Os yw’r cynllun yn rhoi hysbysiad gadael, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- y dyddiad y daeth y cynllun i ben neu’r dyddiad y bydd y cynllun yn rhoi’r gorau i fod yn Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
- y rheswm dros y penderfyniad am roi’r gorau i fod yn Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Os yw’r cynllun wedi torri amodau cymhwyso ac yn rhoi’r gorau i fod yn Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Os yw’r cynllun wedi torri amodau cymhwyso, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- pa amod nad yw wedi’i fodloni bellach sy’n golygu y bydd y cynllun yn rhoi’r gorau i fod yn Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
- y dyddiad pan nad oedd yr amod yn cael ei fodloni bellach
Ar gyfer torri’r gofyniad o ran perchnogaeth neu’r gofyniad o ran cyfyngiad a phan fo’r cyfnod ‘unioni’ o 9 mis yn berthnasol mae’n rhaid i chi hefyd gadarnhau’r dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol na fydd y toriad yn cael ei gywiro o fewn y cyfnod hwnnw.
Ar gyfer torri’r amod o ran buddsoddwr esempt, bydd angen i chi hefyd roi’r dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol o’r toriad.
Os na fydd y cynllun yn bodloni amod cymhwyso a gafodd ei drin fel un oedd wedi’i fodloni ar gyfer y cyfnod cychwynnol
Os oedd y cynllun wedi trin y gofyniad o ran perchnogaeth neu’r amod o ran bod â chyfoeth o eiddo yn y DU fel un oedd wedi’i fodloni yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 mis pan ddaeth yn RIF, ond nid yw bellach yn disgwyl bodloni’r amod yn ystod y cyfnod cychwynnol hwnnw, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- pa ofyniad o ran perchnogaeth neu amod o ran bod â chyfoeth o eiddo yn y DU na fydd yn cael ei fodloni
- y dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol na fydd yn cael ei fodloni
Os oes newid i amodau o ran cyfyngiad sydd gan y cynllun neu is-gynllun
Os oes newidiadau i’r amodau o ran cyfyngiad, ac roedd y cynllun neu is-gynllun yn dibynnu ar y rhain i fodloni’r gofyniad o ran cyfyngiad, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- manylion yr amodau blaenorol o ran cyfyngiad yr oedd yn dibynnu arnynt
- y dyddiad pan nad oedd yn eu bodloni bellach neu na fydd yn eu bodloni bellach
- yr amodau newydd o ran cyfyngiad y mae’n dibynnu arnynt
- dyddiad y bodlonwyd neu y bydd yr amodau newydd yn cael eu bodloni
Is-gynlluniau cynllun ambarél
Os yw’r cynllun wedi sefydlu, neu’n bwriadu sefydlu is-gynllun, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- enw’r is-gynllun newydd
- y dyddiad y sefydlwyd neu bydd yr is-gynllun yn cael ei sefydlu
- pa amodau o ran cyfyngiad y mae’r is-gynllun yn eu bodloni
Os yw’r cynllun wedi dirwyn i ben, neu’n bwriadu dirwyn is-gynllun i ben, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- enw’r is-gynllun
- dyddiad y cafodd yr is-gynllun ei ddirwyn i ben neu bydd yn cael ei ddirwyn i ben
Gwneud hysbysiad o newid
Ar-lein
Os ydych chi’n asiant neu’n rheolwr sy’n llenwi’r ffurflen ar ran gweithredwr y cynllun, bydd angen i chi ddarparu ffurflen 64-8 neu lythyr o awdurdod, os nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen.
Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
- defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.
Byddwch yn cael cadarnhad pan fyddwch yn cyflwyno’ch hysbysiad o newid.
Byddwn yn anelu at brosesu hyn cyn pen 15 diwrnod gwaith.
E-bost neu drwy’r post
Gallwch gyflwyno’ch hysbysiad drwy e-bost neu ei anfon drwy’r post os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.
- Lawrlwythwch ac arbed (yn agor tudalen Saesneg).
- Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim (yn agor tudalen Saesneg).
- Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Ble i anfon yr hysbysiad
E-bostiwch y ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am yr hysbysiad i cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc).
Os na allwch e-bostio’r ffurflen, argraffwch hi a’i phostio i:
Collective Investment Schemes Centre (CISC)
Wealthy/Mid-size Business Compliance
HM Revenue & Customs
BX9 1HT
Help
Gallwch anfon e-bost i cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc) ar gyfer y canlynol:
- os oes angen i chi ddiweddaru’ch manylion cyswllt
- os oes angen help i lenwi’ch hysbysiad
- os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â Chronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Updates to this page
-
Information on when you need to tell us about a change, what you'll need and how to make a change notification online has been added.
-
Added translation