Canllawiau

Cyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Dysgwch sut i gyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, a’i ddiwygio.

Cyn i chi gyflwyno datganiad, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Pwy sy’n gorfod cyflwyno datganiad

Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad bob blwyddyn os ydych wedi cofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd ac yn cyrraedd y trothwy i dalu’r ardoll. Gofynnwn i chi gyflwyno datganiad hyd yn oed os nad ydych yn bodloni’r trothwy ar gyfer talu’r ardoll.

Er enghraifft, os ydych yn cofrestru ac yn cyflwyno datganiad fel endid maint canolig yn y flwyddyn gyntaf, bydd angen i chi dalu’r ardoll. Os nad ydych yn bodloni’r trothwy refeniw yn ystod blwyddyn ddilynol, gofynnwn eich bod yn dal i gyflwyno datganiad.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • y cyfnod cyfrifyddu perthnasol ar gyfer eich sefydliad

  • eich refeniw yn y DU ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu perthnasol

  • pa mor hir y gwnaethoch gynnal gweithgaredd a reoleiddir gan reoliadau gwrth-wyngalchu arian yn ystod y flwyddyn ariannol

Bydd angen i chi hefyd roi manylion i ni am y person yn eich sefydliad sy’n llenwi’r datganiad, gan gynnwys:

  • ei enw

  • ei rôl

  • ei fanylion cyswllt

Pryd i gyflwyno datganiad

Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad erbyn 30 Medi bob blwyddyn.

Bydd y datganiad hwn yn seiliedig ar y canlynol:

  • eich refeniw yn y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol – gall hyn fod yn amcangyfrif os bydd angen

  • p’un a wnaethoch ddechrau gweithgaredd a reoleiddir gan reoliadau gwrth-wyngalchu arian yn ystod y flwyddyn flaenorol, neu roi’r gorau iddo

Mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Cyflwyno datganiad

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gyflwyno’ch datganiad.

Bydd angen i chi fewngofnodi i’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Os gwnaethoch gofrestru mwy nag un endid, bydd gan bob un Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân.

Cyflwyno datganiad nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth hwn, dewiswch y cysylltiad ‘A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn?’ ar y dudalen lle mae angen help arnoch.

Ar ôl i chi gyflwyno datganiad

Byddwch yn cael cyfeirnod 14 digid sy’n dechrau gydag ‘X’ ar gyfer eich datganiad. Bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod hwn i dalu’ch Ardoll Troseddau Economaidd.

Os oes angen i chi ddiwygio’ch datganiad

Gallwch newid eich datganiad os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch roi amcangyfrif o’ch refeniw yn y DU yn eich datganiad gwreiddiol

  • mae’r wybodaeth wreiddiol a roddwyd gennych yn anghywir

  • mae’ch amgylchiadau chi wedi newid

Er mwyn diwygio’ch datganiad, mewngofnodwch i’ch cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd.

Ar ôl i chi gyflwyno datganiad diwygiedig, os ydych wedi talu gormod, byddwch yn cael llythyr yn nodi swm yr ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Dysgwch sut i ofyn am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o’r Ardoll Troseddau Economaidd.

Cysylltwch â CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd

Ffoniwch CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd dim ond os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein gwasanaethau neu arweiniad ar-lein.

Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.

Sicrhewch fod eich manylion yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi’u diweddaru, neu mae’n bosibl byddwch yn methu’r camau diogelwch dros y ffôn.

Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:

  • yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
  • yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
  • yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno

Ffôn: 0300 322 9621

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm

Ar gau ar y penwythnos ac ar wyliau banc.

Gwybodaeth am gostau galwadau.

Cyhoeddwyd ar 4 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 May 2024 + show all updates
  1. Made it clear that we ask you still to submit a return even if you do not meet the threshold for paying the levy.

  2. Added information on how to contact HMRC about Economic Crime Levy.

  3. Clarification added that if you registered more than one entity for the Economic Crime Levy, you'll have a separate Government Gateway user ID for each one.

  4. Link added to new guidance on how to claim a refund, if you've amended your return and have now paid too much.

  5. Guidance added for if you need to amend your return. You can now do this online within your Economic Crime Levy account.

  6. Guidance about after you have submitted a return for the Economic Crime Levy has been added.

  7. First published.