Canllawiau

Cofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Dysgwch pryd a sut i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, a sut i ddiwygio cofrestriad.

Pryd i gofrestru

Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn gynted â phosibl cyn i chi gyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd — mae hyn oherwydd bod taliadau ar gyfer yr ardoll yn ddyledus erbyn 30 Medi bob blwyddyn.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • gwybodaeth am eich refeniw yn y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf
  • dyddiad y dechreuodd eich sefydliad weithgareddau a reoleiddir gan reoliadau gwrth-wyngalchu arian, os oeddech wedi dechrau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf
  • y sector busnes mae’ch sefydliad yn gweithredu ynddo
  • gwybodaeth am ba mor hir yw’ch cyfnod cyfrifyddu

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am fanylion cyswllt rhywun yn eich sefydliad, gan gynnwys:

  • enw
  • rôl
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn

Os ydych yn bartneriaeth gyffredinol, neu’n bartneriaeth yn yr Alban

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr eich partneriaeth
  • y cod post rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer Hunanasesiad

Os ydych yn gwmni cyfyngedig

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • rhif cofrestru’r cwmni
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth

Os ydych yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu’n bartneriaeth gyfyngedig

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • rhif cofrestru cwmni eich partneriaeth
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr eich partneriaeth
  • y cod post rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer Hunanasesiad

Os ydych yn gwmni anghyfyngedig, neu’n bartneriaeth gyfyngedig yn yr Alban

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • rhif cofrestru’r cwmni
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth

Os ydych yn unig fasnachwr

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr

Os ydych yn elusen

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • rhif cofrestru’r elusen
  • rhif cofrestru’r cwmni
  • enw’r busnes

Os ydych yn ymddiriedolaeth

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • enw’r cwmni

Os ydych yn gymdeithas anghorfforedig

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth — os oes un gennych
  • enw’r cwmni
  • cod post

Os ydych yn gymdeithas gofrestredig

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • rhif cofrestru’r cwmni
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr y gymdeithas gofrestredig

Os ydych yn sefydliad y tu allan i’r DU

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • enw’r cwmni
  • rhif cofrestru’r cwmni — os oes un gennych

Sut i gofrestru

Os ydych o dan oruchwyliaeth CThEF, neu un o’r cyrff proffesiynol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

I gofrestru, bydd angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth y person, neu’r endid, sy’n cwblhau’r cofrestriad.

Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru.

Os ydych yn cofrestru mwy nag un endid, bydd angen i chi greu ID Defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân ar gyfer pob un.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth hwn, dewiswch y cysylltiad ‘A yw’r dudalen hon yn gweithio’n iawn?’ ar y dudalen lle mae angen help arnoch.

Ar ôl i chi gofrestru

Byddwch yn cael rhif cofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd. Bydd angen i chi ei gadw ar gyfer eich cofnodion, oherwydd y bydd angen i chi gyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd bob blwyddyn.

Os bydd angen i chi ddiwygio’ch cofrestriad

Gallwch newid eich cofrestriad os:

  • yw’r wybodaeth wreiddiol a roddwyd gennych yn anghywir
  • yw’ch amgylchiadau wedi newid

Er mwyn diwygio’ch cofrestriad, mewngofnodwch i’ch cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd.

Cysylltwch â CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd

Ffoniwch CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd dim ond os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein gwasanaethau neu arweiniad ar-lein.

Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.

Sicrhewch fod eich manylion yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi’u diweddaru, neu mae’n bosibl byddwch yn methu’r camau diogelwch dros y ffôn.

Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:

  • yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
  • yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
  • yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno

Ffôn:

0300 322 9621

Oriau agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm Ar gau ar y penwythnos ac ar wyliau banc.

Gwybodaeth am gostau galwadau.

Cyhoeddwyd ar 25 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
  1. Added information on how to get help with Economic Crime Levy from HMRC.

  2. Clarification added that if you are registering more than one entity, you'll need to create a separate Government Gateway User ID and password for each one.

  3. Guidance added for amending a registration. You can now do this online within your Economic Crime Levy account. Also guidance updated on what information you'll need to register a charity, trust, unincorporated association, registered society or non-UK establishment.

  4. Guidance about what you will need to register has been updated.

  5. The after you have registered section has been updated with a link to a page with information about submitting a return for the Economic Crime Levy.

  6. First published.