Canllawiau

Cyfraniadau nawdd cymdeithasol ar gyfer gweithwyr yn y DU, yr UE, yr AEE neu’r Swistir yn achos Brexit dim cytundeb

Rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y DU, yng ngwledydd eraill yr UE a’r AEE, ac yn y Swistir, yn achos Brexit dim cytundeb

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s out of date. Read about:

Cadw llygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf

Mae’r DU yn gadael yr UE. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut i baratoi ar gyfer Brexit. Bydd yn cael ei diweddaru os bydd unrhyw beth yn newid.

Cofrestrwch i gael e-byst hysbysu er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Os ydych yn gyflogwr, yn gyflogai neu’n berson hunangyflogedig, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y DU, a hefyd yn yr UE neu’r AEE.

Os ydych yn wladolyn y DU neu Iwerddon sy’n gweithio yn y DU neu Iwerddon, ni fydd eich sefyllfa’n newid ar ôl Brexit. Ni fydd angen i chi neu’ch cyflogwr wneud dim byd gwahanol.

Os ydych yn wladolyn y DU, y Swistir neu’r UE sy’n symud o’r DU i weithio yn y Swistir, ni fydd eich sefyllfa’n newid cyn 31 Rhagfyr 2020. Ni fydd angen i chi neu’ch cyflogwr wneud dim byd gwahanol.

Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU os yw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gyflogwr y mae ei gyflogai’n gweithio yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir ar hyn o bryd, ac yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU
  • rydych yn gweithio yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir fel cyflogai neu berson hunangyflogedig yn y DU ar hyn o bryd, ac mae gennych ffurflen A1/E101 a gyhoeddwyd gan y DU sy’n dangos eich bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol – byddwch yn parhau i dalu tan y dyddiad dod i ben ar ffurflen A1/E101

Cyflogwyr yn y DU

Os yw’ch cyflogai’n gweithio yn yr UE neu’r AEE ar hyn o bryd, cysylltwch â’r sefydliad nawdd cymdeithasol perthnasol yn yr UE er mwyn gwirio a fydd angen i’ch cyflogai ddechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad honno, yn ogystal ag yn y DU.

Bydd ffurflen arall yn lle’r A1/E101 yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ceisiadau newydd ar ôl Brexit. Defnyddiwch hon er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cyflogai’n parhau i wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU.

I roi gwybod i CThEM pan fyddwch yn anfon cyflogeion i weithio yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:

Cyflogeion ac unigolion hunangyflogedig yn y DU

Os yw’r dyddiad dod i ben ar eich ffurflen A1/E101 yn ddyddiad ar ôl Brexit, cysylltwch â’r sefydliad nawdd cymdeithasol perthnasol yn yr UE er mwyn gwirio a fydd angen i chi ddechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad honno, yn ogystal ag yn y DU.

I roi gwybod i CThEM eich bod yn mynd i weithio yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:

Dinasyddion yr UE, yr AEE neu’r Swistir sy’n gweithio yn y DU

Os ydych yn cael eich cyflogi’n bennaf mewn un neu fwy o wledydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir, ond rydych yn gwneud gwaith cyfyngedig yn y DU, ac yn bodloni amodau penodol, ni fydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU. Bydd yr amodau’n cael eu cyhoeddi ar ôl Brexit.

Bydd hyn yn berthnasol p’un a oes gennych ffurflen A1/E101 ddilys ai peidio.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 November 2019 + show all updates
  1. Added information about workers from the UK going to work in Switzerland.

  2. First published.