Ffurflen

Rhoi gwybod i CThEF os ydych yn anfon cyflogeion i weithio dramor (CA3821)

Gwnewch gais i gael gwybod os oes angen i’ch cyflogai barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU tra’i fod yn gweithio dramor dros dro.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein os ydych yn gyflogwr

Gwneud cais ar-lein os ydych yn asiant

Gwneud cais drwy’r post

Manylion

Dylech chi neu’ch asiant wneud cais ar-lein neu drwy’r post os ydych yn anfon un neu fwy o gyflogeion i weithio dros dro mewn gwlad o fewn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, y Swistir neu Liechtenstein.

Sut i wneud cais

Os yw’ch busnes wedi bod yn masnachu yn y DU am lai na 18 mis, bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth ychwanegol gyda’ch cais, er enghraifft sampl o anfonebau neu gontractau o’r 2 fis diwethaf. Gellir atodi’r rhain i’ch cais ar-lein neu eu cynnwys gyda’ch cais drwy’r post.

Gwneud cais ar-lein

I wneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Cewch gyfeirnod unigryw pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen. Rhaid cynnwys y cyfeirnod hwn gyda’r wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei hanfon drwy’r post.

Gallwch gadw llygad ar gynnydd y ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio’r un cyfeirnod.

Os ydych yn:

  • gyflogwr, defnyddiwch y ffurflen ar-lein
  • asiant, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i Asiantau

Gwneud cais drwy’r post

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn Saesneg).

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen bost yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 December 2023 + show all updates
  1. A new section has been included so that you can check when you can expect a reply from HMRC after you've applied.

  2. More information about if your business has been trading in the UK for less than 18 months has been added.

  3. The Welsh version of the 'apply by post' form has been updated.

  4. This has been updated following the announcement of the UK’s deal with the EU. Apply to find out if your employee needs to continue paying UK National Insurance contributions while they work temporarily in the EU, Norway, Iceland, Switzerland or Liechtenstein

  5. Changes to clarify that you or your agent can use the online form service or postal form to tell HMRC you're sending your employees to work abroad.

  6. Agent apply online (sign in or setup a Government Gateway account) link added to the page.

  7. Welsh translation added to the page.

  8. An online service is now available.

  9. First published.