Canllawiau

Rhannu gwybodaeth y tu allan i’r llys mewn achosion teulu

Pryd y gallwch chi rannu gwybodaeth am eich achos, beth allwch chi ei rannu a beth i’w wneud os bydd rhywun arall yn rhannu gwybodaeth.

Trosolwg

Dylech ddarllen y canllaw hwn os ydych yn cymryd rhan mewn achosion teulu yn ymwneud â phlant. Mae’n esbonio:

  • pam y ceir rheolau am rannu gwybodaeth am achos y tu allan i’r llys
  • pryd y gallwch rannu gwybodaeth am eich achos
  • sut y gallwch rannu gwybodaeth am eich achos yn ddiogel

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth am achos pan na ddylent wneud hynny.

Nid yw’r canllaw hwn yn berthnasol i geisiadau am orchmynion rhieni (o dan Ddeddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008).

Pam y ceir cyfyngiadau am rannu gwybodaeth am achos y tu allan i’r llys

Weithiau, gelwir rhannu gwybodaeth am achos yn ‘datgelu gwybodaeth’ neu ‘cyfathrebu gwybodaeth’.

Mae’r gyfraith yn caniatáu i chi rannu gwybodaeth am eich achos ond dim ond mewn amgylchiadau penodol. Mae hyn er mwyn diogelu preifatrwydd pobl sy’n rhan o’ch achos chi, yn enwedig plant.

Os ydych chi’n rhannu gwybodaeth benodol am achos sy’n ymwneud â phlentyn mae’n bosibl y gallech chi gael eich dirwyo neu eich carcharu am ddirmygu’r llys. Neu efallai y byddwch yn cyflawni trosedd, os byddwch yn rhannu gwybodaeth benodol tra bod achos yn dal i fynd rhagddo.

Pryd y gallwch rannu gwybodaeth am eich achos

Gallwch rannu gwybodaeth am eich achos yn ddiogel:

  • â’ch cynrychiolwyr cyfreithiol
  • â phobl eraill sy’n bartïon yn yr achos a’u cynrychiolwyr cyfreithiol
  • ag arbenigwr sydd wedi’i benodi gan y llys
  • swyddogion Cafcass neu Cafcass Cymru sy’n ymwneud â’r achos
  • swyddog adolygu annibynnol awdurdod lleol
  • yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

Gallwch rannu gwybodaeth ag unrhyw berson arall lle mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i chi gael:

  • cyngor cyfrinachol preifat i’ch cynorthwyo i gyflwyno’ch achos neu gael cymorth yn ystod achos
  • gwasanaeth cyfryngu neu gymorth i ddatrys anghytundeb rhyngoch chi ac unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r achos
  • cyngor neu gymorth gyda chwyn am yr achos neu rywun sy’n ymwneud â’r achos (fel tyst arbenigol sy’n ymwneud â’r achos)

Rhesymau eraill dros rannu gwybodaeth

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle caniateir i chi rannu gwybodaeth benodol am eich achos. Mae rheolau llys (Rheolau Trefniadaeth Teulu 2010 a chyfarwyddiadau ymarfer) sy’n nodi gyda phwy y gallwch rannu pa wybodaeth, ac at ba ddiben. Er enghraifft, gallwch rannu copi o’r dyfarniad yn eich achos gyda swyddog heddlu at ddibenion ymchwiliad troseddol. Neu gallwch rannu unrhyw wybodaeth o’r achos gyda pherson sy’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael gofal iechyd neu gwnsela ar eich cyfer chi neu’r plentyn.

Os ydych am rannu gwybodaeth am eich achos am reswm, neu gyda pherson, nad yw wedi’i gynnwys yn y canllaw hwn, rhaid i chi yn gyntaf ofyn i’ch cynrychiolydd cyfreithiol am gyngor.

Os ydych yn cynrychioli eich hun, yn gyntaf rhaid i chi ofyn i’r barnwr neu’r ynadon sy’n ymwneud â’r achos am gyngor a chaniatâd.

Hefyd, gallai’r barnwr neu’r ynadon sy’n delio â’ch achos wneud gorchymyn gan y llys yn nodi pa wybodaeth y gellir, neu na ellir, ei rhannu am eich achos.

Beth allwch chi ei rannu am achos

Lle nad yw rheolau’r llys yn berthnasol, efallai na fyddwch yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am yr achos tra’i fod yn mynd rhagddo. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu rhannu’r wybodaeth ar ôl i’r achos ddod i ben. Ni allwch rannu dyfarniad drafft – un nad yw wedi’i gwblhau eto ac wedi’i roi’n ffurfiol gan y llys.

Ar ôl i’r achos ddod i ben, efallai y byddwch yn gallu rhannu gwybodaeth benodol am yr achos sydd wedi’i wneud yn hysbys yn ysgrifenedig neu a ddywedwyd y tu mewn neu’r tu allan i’r llys. Mae hyn yn cynnwys:

  • enw’r plentyn
  • y ffaith bod achos wedi digwydd
  • natur yr anghydfod
  • y dyfarniad terfynol

Fodd bynnag, rhaid i chi ofyn am ganiatâd gan y llys i rannu gwybodaeth arall, megis:

  • dogfennau ar ffeil y llys
  • datganiadau tyst
  • adroddiadau a wnaed yn y llys

Gall y llys hefyd fod wedi gwneud gorchymyn yn dweud na ellir rhannu rhywfaint o’r wybodaeth neu’r holl wybodaeth hyd yn oed ar ôl i’r achos ddod i ben. Er mwyn bod yn sicr o’r hyn y gallwch ei rannu, rhaid i chi bob amser wirio gyda’r llys yn gyntaf.

Rhaid i bawb rydych yn rhannu gwybodaeth â nhw ei defnyddio dim ond am y rheswm y cawsant yr wybodaeth yn unig. Er enghraifft, os ydych yn rhannu gwybodaeth at ddibenion cyfryngu, ni ddylid ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth arall. Os bydd rhywun yn defnyddio’r wybodaeth at ddibenion eraill, gallent fod yn dirmygu’r llys a gallent wynebu cosb o ddirwy neu garchar. Hefyd, os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth tra bod yr achos yn mynd rhagddo, fe allent fod yn cyflawni trosedd.

Beth mae ‘rhannu gwybodaeth am achos’ yn ei olygu

Mae rhannu gwybodaeth yn cynnwys siarad amdano neu ei ysgrifennu i lawr. Mae hyn yn cynnwys anfon dogfennau at rywun drwy’r post neu e-bost. Mae hefyd yn cynnwys rhannu gwybodaeth ar-lein, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.

Dim ond ar adegau penodol y mae’r rheolau’n caniatáu ichi rannu gwybodaeth a dim ond gyda rhai pobl yn dibynnu ar amgylchiadau a statws yr achos. Os ydych yn dal yn ansicr ar ôl darllen y canllaw hwn, dylech ofyn i’r llys – yn enwedig os ydych am ei rannu’n gyhoeddus, megis ar gyfryngau cymdeithasol.

Rhannu gwybodaeth yn ddiogel

Hyd yn oed os caniateir i chi rannu gwybodaeth am eich achos, rhaid i chi ei rannu mewn ffordd ddiogel yn unig. Y rheswm am hyn yw oherwydd y gallai’r wybodaeth gynnwys manylion sensitif neu bersonol amdanoch chi neu unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r achos, gan gynnwys plant.

Hefyd, os ydych yn rhannu gwybodaeth mewn modd nas caniateir gan y gyfraith, gallech fod yn dirmygu’r llys. Efallai eich bod wedi cyflawni trosedd a gallech wynebu cosbau difrifol.

Mae rhai canllawiau syml i’w dilyn wrth rannu gwybodaeth am eich achos a ble y caniateir i chi ei rannu:

Anfonwch yr wybodaeth at y person cywir

Os ydych yn anfon gwybodaeth drwy’r post neu drwy e-bost, gwnewch yn siŵr:

  • y gellir adnabod y person rydych yn ei hanfon ato yn ôl ei enw
  • eich bod yn nodi ‘preifat a chyfrinachol’ ar yr wybodaeth
  • nad ydych yn anfon e-bost i gyfeiriad cyswllt cyffredinol sefydliad

Byddwch yn glir ac yn benodol

Gwnewch yn glir iddynt pam eu bod yn ei derbyn ac mai dim ond am y rheswm y maent yn ei derbyn y gallant ddefnyddio’r wybodaeth.

Gwnewch yn siŵr eu bod yn deall y canlynol:

  • bod yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda nhw yn gyfrinachol
  • a allant rannu’r wybodaeth gyda phobl eraill
  • a oes angen eich caniatâd arnynt i wneud hynny

Dylech esbonio’r wybodaeth hon yn ysgrifenedig fel ei bod yn glir i’r ddau ohonoch.

Cadwch gofnod

Cadwch gofnod cywir o ba ddogfennau neu wybodaeth arall rydych wedi’u rhannu a gyda phwy rydych wedi rhannu’r rhain, gan gynnwys eu:

  • henwau
  • teitl eu swydd
  • manylion cyswllt

Dylech hefyd wneud nodyn o’r rheswm pam y gwnaethoch benderfynu rhannu’r wybodaeth gyda nhw a’r hyn y gwnaethoch ei ddweud wrthynt am basio’r wybodaeth ymlaen.

Pwy all rannu gwybodaeth am achos

Gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r achos llys rannu gwybodaeth am eich achos yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y canllaw hwn. Mae hyn yn cynnwys:

  • rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y plentyn sy’n rhan o’r achos
  • yr awdurdod lleol mewn achosion gofal
  • plentyn sy’n rhan o’r achos
  • cynrychiolydd cyfreithiol unrhyw un o’r uchod.

Os oes angen caniatâd y barnwr neu’r ynad ar rywun i rannu gwybodaeth am yr achos, efallai y bydd y llys yn gofyn i chi am eich barn ar rannu’r wybodaeth.

Y cyfryngau

Gall y cyfryngau fynychu’r rhan fwyaf o achosion teulu mewn unrhyw lys. Ni allant fynychu rhai gwrandawiadau, er enghraifft y rhai sy’n ymwneud â mabwysiadu, gorchmynion lleoli, neu orchmynion rhianta.

Hyd yn oed pan all aelodau o’r cyfryngau fynychu gwrandawiad, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallant ei adrodd. Er enghraifft, efallai na fyddant bob amser yn gallu cyhoeddi manylion yr hyn a ddigwyddodd yn y llys a’r hyn a ddywedwyd yn y dystiolaeth – yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud â phlant. Efallai y bydd angen iddynt gadw manylion y bobl sy’n gysylltiedig â’r achos yn ddienw.

Am ragor o wybodaeth, gweler Presenoldeb y cyfryngau mewn gwrandawiadau llys teulu.

Pobl eraill yn rhannu gwybodaeth am yr achos

Os ydych wedi siarad â rhywun am eich achos at ddibenion cyfryngu neu ymchwilio i gŵyn, efallai y bydd angen iddynt basio’ch gwybodaeth ymlaen. Yr enw ar hyn yw ‘datgelu ymlaen’. Dim ond i’r un diben ag y cawsant yr wybodaeth y gallant ei rhannu - er enghraifft, ymchwilio i gŵyn.

Yn dibynnu ar y rheswm pam y rhannwyd yr wybodaeth, efallai y bydd angen i chi gytuno cyn y gall y person rannu gwybodaeth ymlaen. Cewch roi eich cytundeb ar lafar neu yn ysgrifenedig. Er hynny, mae’n well rhoi eich caniatâd yn ysgrifenedig fel na cheir camddealltwriaeth am yr hyn y cytunwyd arno. Os mai’ch rheswm am siarad â rhywun am eich achos oedd dim ond i gael cyngor neu gymorth, ni chaiff yr unigolyn hwnnw rannu unrhyw wybodaeth ag unrhyw un arall. Mae hyn oherwydd bod rhaid i’r wybodaeth hon aros yn gyfrinachol.

Gall pobl eraill sy’n ymwneud â’r achos hefyd rannu gwybodaeth am yr achos, os ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau a amlinellir yn y canllaw hwn. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth a ddarparwyd gennych yn yr achos. Nid oes angen eich caniatâd arnynt i wneud hynny. Mae modd i’r wybodaeth hon hefyd gael ei phasio ymlaen heb eich caniatâd.

Pryd i gael caniatâd gan y barnwr neu’r llys

Gall y barnwr yn eich achos wneud gorchymyn llys sy’n nodi’n glir pa wybodaeth am eich achos y gellir ei rhannu a gyda phwy y gellir ei rhannu. Os bu’n rhaid i chi gael caniatâd gan y barnwr i rannu gwybodaeth am eich achos, bydd angen i chi hefyd ofyn i’r barnwr a all eraill ei rannu a sut y gallant wneud hynny.

Os ydych chi, neu unigolyn arall, eisiau cyhoeddi gwybodaeth am achosion sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd i’r cyhoedd, bydd angen i chi geisio caniatâd y barnwr. Byddai hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Ar ôl yr achos, gallwch gyhoeddi gwybodaeth o dan yr amgylchiadau a nodir yn y canllaw hwn, oni bai bod y barnwr wedi gorchymyn na allwch wneud hynny.

Gall y llys gyfyngu neu awdurdodi pa wybodaeth y gellid ei phasio ymlaen mewn unrhyw achos. Os oes gennych bryderon am wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen i rywun arall, dylech ofyn i’r llys ystyried cyfyngu ar wybodaeth y gellid ei phasio ymlaen.

Os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth am achos heb ganiatâd y llys

Os bydd rhywun wedi rhannu gwybodaeth am achos pan na ddylent wneud hynny, dylech ddweud wrth y llys ar unwaith. Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sydd gennych am:

  • yr hyn a ddywedodd y person
  • gyda phwy y gwnaethant siarad
  • yr hyn a wyddant am yr achos
  • pa wybodaeth neu ddogfennau maent wedi’u rhannu

Os yw’r person yn rhywun yr ydych wedi rhannu gwybodaeth â nhw, dylech hefyd ddweud wrth y llys am:

  • unrhyw gyfathrebu rydych wedi’i gael â nhw
  • y rhesymau y gwnaethoch drafod eich achos â nhw
  • a roesoch eich caniatâd i basio’r wybodaeth ymlaen.

Os bydd rhywun yn rhannu gwybodaeth am achos pan na ddylent wneud, efallai ei fod yn dirmygu’r llys neu efallai ei fod wedi cyflawni trosedd. Os ydych yn gwybod bod hyn wedi digwydd, dylech ddweud wrth y llys cyn gynted â phosibl i ddiogelu’r bobl sy’n ymwneud â’r achos, yn enwedig unrhyw blant.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth fanwl am reolau trefniadaeth y llys teulu.

I bobl ag anabledd

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn cynnig cymorth, a gall wneud addasiadau rhesymol i bobl ag anableddau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd heb unrhyw rwystrau. Dylech gysylltu â’r llys sy’n delio â’r achos os:

  • oes gennych anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd mynd i’r llys neu gyfathrebu
  • os ydych eisiau unrhyw wybodaeth mewn fformat arall – er enghraifft, print bras

Rhagor o wybodaeth fanwl am addasiadau rhesymol.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 April 2024 + show all updates
  1. Added a Welsh version of the page

  2. First published.