Canllawiau

Sefydlu ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’

Sut i sefydlu a defnyddio'ch 'Cyfrif Comisiwn Elusennau' newydd i gael mynediad at wasanaethau ar-lein ar ran eich elusen.

Applies to England and Wales

Dechrau arni

Mae mynediad i wasanaethau ar-lein y Comisiwn Elusennau wedi newid. O 31 Gorffennaf 2023 ni fydd manylion mewngofnodi blaenorol eich elusen yn gweithio rhagor.

Bydd angen i bob defnyddiwr sefydlu ei ‘Gyfrif Comisiwn Elusennau’ ei hun gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair unigol (byddwn yn anfon eich cod mynediad i’r cyfeiriad e-bost hwn bob tro y byddwch yn mewngofnodi).

Mae gwahanol gamau ar gyfer sefydlu eich cyfrif yn dibynnu ar eich rôl. Bydd eich rôl hefyd yn pennu pa ganiatâd a mynediad y gallwch eu cael. Gallwch fynegi â rhagor o wybodaeth ar gyfer pob swydd isod.

Cyn i chi edrych ar y canllawiau sy’n benodol i’ch rôl, nodwch y canlynol.

Rhaid i’r cyswllt elusennol (pwy bynnag sy’n cael ei enwi ar ein cofnodion fel person cyswllt ar gyfer eich elusen) sefydlu eu cyfrif yn gyntaf fel y gallant wahodd ymddiriedolwyr a defnyddwyr trydydd parti i sefydlu eu cyfrif.

Rydym wedi anfon dolenni sefydlu at bron pob cyswllt elusen a gofrestrwyd gyda ni cyn mis Tachwedd 2022. Mae’r rhan fwyaf o elusennau bellach wedi sefudlu eu ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’.

  • Os ydych yn gyswllt elusennol ac wedi derbyn dolen, ond heb sefydlu eich cyfrif eto, byddem yn eich annog i wneud hynny cyn gynted â phosibl cyn i’r ddolen ddod i ben. Gallwch ddod o hyd i ragor o gyngor ac arweiniad drwy glicio ar ‘cyswllt elusen’ isod. 

  • Os nad ydych erioed wedi derbyn dolen gennym ni, gallai hyn fod oherwydd problemau gyda’ch data, yn enwedig os ydych yn gweithio gydag elusennau lluosog ac wedi cofrestru nifer o gyfeiriadau e-bost.

    Rydym yn gweithio i ddatrys y materion hyn a byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i ni ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol. Ar ôl i ni wneud hynny, byddwn yn anfon dolen atoch. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.

    Peidiwch â phoeni, byddwn yn diwygio dyddiad y ffurflenni blynyddol ar gyfer unrhyw elusennau yr effeithir arnynt i ddangos eich bod wedi’u ffeilio ar amser. 

  • Gall cysylltiadau elusen sydd newydd gofrestru neu unrhyw un sydd angen dolen newydd ddod o hyd i ganllawiau ar ofyn am hyn isod.

Dilynwch y canllawiau ar gyfer eich rôl i sefydlu a dechrau defnyddio’ch cyfrif:

Os ydych yn ymwneud â mwy nag un elusen, byddwch yn gweld eich holl elusennau trwy un cyfrif. Ystyriwch beth yw’r cyfeiriad e-bost gorau i’w ddefnyddio cyn i chi sefydlu’ch cyfrif.

Bydd lefel eich mynediad ar gyfer pob elusen yn eich cyfrif yn cael ei bennu gan eich rôl neu’ch perthynas â’r elusen honno.

Cyhoeddwyd ar 8 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 November 2023 + show all updates
  1. Additional guidance added and content rearranged to better reflect different users.

  2. This page has been restructured to make it easier to use.

  3. First published.