Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau - canllawiau i ddefnyddwyr trydydd parti
Sut i wneud cais am gyfrif, a mynediad i wahanol wasanaethau neu elusennau ychwanegol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Pwy all gael mynediad trydydd parti
Defnyddiwr trydydd parti yw unrhyw un nad yw’n gyswllt elusen nac yn ymddiriedolwr. Er enghraifft, gweithiwr elusen, gwirfoddolwr, cynghorydd proffesiynol fel cyfreithiwr neu gyfrifydd.
Gofynnwch am gyfrif
Mae angen dolen gan yr elusen rydych chi’n gweithio gyda hi i greu cyfrif.
Gofynnwch am hwn yn uniongyrchol gan weinyddwyr yr elusen. Bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch i sefydlu’ch cyfrif. Rhaid iddo fod yn gyfeiriad a ddefnyddiwch yn unig.
Unwaith y byddwch wedi sefydlu cyfrif, os oes angen mynediad at elusen ychwanegol arnoch, bydd angen i chi siarad â gweinyddwyr yr elusen a fydd yn gallu rhoi mynediad i chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif.
Sefydlwch eich cyfrif
Gwyliwch am e-bost gyda’ch dolen gosod. Dyma’r cyfeiriad e-bost y byddwch yn ei ddefnyddio i sefydlu’ch cyfrif.
Wrth sefydlu’ch cyfrif, gofynnir i chi greu eich cyfrinair eich hun.
Creu cyfrinair
Sicrhewch fod gan eich cyfrinair o leiaf:
- 10 nod
- 1 rhif
- 1 prif lythyren
Mynediad a chaniatadau
Unwaith y byddwch wedi sefydlu’ch cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn gallu:
- cyrchu adrannau o’n gwasanaethau ar-lein sy’n briodol ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ei wneud ar gyfer yr elusen (gallwch ofyn am wasanaethau ychwanegol os oes angen)
Gall gweinyddwr hefyd roi:
- mynediad ychwanegol i wasanaethau ar-lein i chi - bydd angen i chi siarad â chyswllt yr elusen neu un o’i gweinyddwyr enwebedig
- rhai hawliau gweinyddol
Materion cyffredin
Dewch o hyd i help gyda materion cyffredin wrth fewngofnodi i’ch cyfrif a’i ddefnyddio.