Guidance
Rhoi gwybod am farwolaethau gwartheg ar y daliad a'u cofnodi
Pan fydd gwartheg yn marw ar y fferm neu ar safle arall, yn hytrach nag yn y lladd-dy, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi'r farwolaeth a hysbysu GSGP ohoni.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw wartheg sy’n marw ar eich daliad. Mae’n rhaid i’r wybodaeth gyrraedd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) o fewn saith diwrnod i’r dyddiad y bu farw’r anifail.
Mae’n rhaid i chi ddiweddaru cofrestr eich daliad o fewn saith diwrnod.
I ble y dylech anfon dogfennau
Er mwyn rhoi gwybod am wartheg sydd wedi marw mae angen i chi bostio dogfennau yn ôl i GSGP. Dylech ddefnyddio’r cyfeiriad isod:
BCMS
Curwen Road
Workington
CA14 2DD
Rhoi gwybod am stoc drig
Mae’n rhaid i chi naill ai:
- roi gwybod i GSGP ar-lein neu dros y ffôn ac wedyn ddychwelyd dogfen cofrestru’r anifail (e.e. ei basbort) a ddylai gyrraedd GSGP o fewn saith diwrnod i’r dyddiad marw
- rhoi gwybod am y farwolaeth drwy gwblhau a dychwelyd dogfen gofrestru’r anifail (e.e. ei basbort) i GSGP
Os byddwch yn rhoi gwybod am farwolaeth ar eich daliad ar-lein neu dros y ffôn, ni fydd angen i chi lenwi’r adran ‘Manylion y farwolaeth’ yn y pasbort cyn i chi ei anfon i GSGP. Os oes gan yr anifail basbort un dudalen, mae’n rhaid i chi dicio’r blwch er mwyn nodi eich bod wedi rhoi gwybod am y farwolaeth yn electronig.
Noder: os yw’r anifail dros 48 mis oed mae’n rhaid cynnal profion TSE ar y carcas er mwyn nodi a yw’n cynnwys BSE (gweler ‘Gwaredu carcas’ isod). Golyga hyn fod angen i chi rwygo’r slip profi am TSEs o waelod pasbort un dudalen neu gadw cerdyn symud os nad oes gan yr anifail basbort un dudalen. Bydd y slip neu’r cerdyn yn mynd gyda’r carcas i’r safle samplu.
Pa ddogfennau y dylech eu dychwelyd
Dangosir y dogfennau y dylech eu hanfon i GSGP yn y tabl isod (gan dybio bod gan yr anifail ei ddogfennau gwreiddiol o hyd – os bydd GSGP wedi anfon fersiwn mwy diweddar o ddogfen atoch yn lle’r un wreiddiol, byddwch yn anfon y ddogfen ddiweddarach honno.
Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau eraill (e.e. tystysgrifau brîd).
statws yr anifail | yr hyn y dylech ei anfon |
---|---|
cofrestrwyd ar ôl 1 Awst 2011 | pasbort un dudalen (CPP52) |
cofrestrwyd rhwng 28 Medi 1998 a 31 Gorffennaf 2011 | pasbort ar ffurf llyfr sieciau (CPP13 |
cofrestrwyd rhwng 1 Awst 1996 a 27 Medi 1998 | yr hen basbort gwartheg (glas a gwyrdd) (CPP1) a thystysgrif cofrestru â SOG (COR neu ffurflen CHR3) |
anifail a aned neu a fewnforiwyd i’r DU cyn 1 Awst 1996 | tystysgrif cofrestru â SOG (COR neu CHR3) |
anifail heb basbort a aned ar ôl 1 Awst 1996 | hysbysiad cofrestru (CPP35) neu lythyr os na chadwyd y CPP35 |
Os ydych yn defnyddio SOG Ar-lein
Gallwch roi gwybod am farwolaeth anifail cofrestredig gan ddefnyddio SOG Ar-lein o’r hafan neu gan ddefnyddio’r cyfleuster lanlwytho. Er mwyn rhoi gwybod am nifer o farwolaethau, gallwch .
Os byddwch yn rhoi gwybod am farwolaeth gan ddefnyddio SOG Ar-lein mae’n rhaid i chi ddychwelyd y pasbort a/neu’r dystysgrif gofrestru i GSGP o fewn saith diwrnod i’r farwolaeth o hyd.
Os ydych yn defnyddio llinell hunanwasanaeth SOG
Os oes gan yr anifeiliaid dagiau rhifol y DU, gallwch roi gwybod eu bod wedi marw ar linell hunanwasanaeth SOG.
Cyn i chi ffonio, bydd angen y canlynol arnoch:
- Eich Rhif Sir, Plwyf a Daliad
- rhifau tagiau clust yr anifeiliaid rydych yn rhoi gwybod eu bod wedi marw
- dyddiad marw pob anifail
Os byddwch yn rhoi gwybod am farwolaeth dros y ffôn mae’n rhaid i chi ddychwelyd y pasbort a/neu’r dystysgrif gofrestru i GSGP o fewn saith diwrnod i’r dyddiad marw.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd fferm
Os byddwch yn rhoi gwybod am farwolaeth gan ddefnyddio meddalwedd fferm, mae’n rhaid i chi ddychwelyd y pasbort a/neu’r dystysgrif gofrestru i GSGP o fewn saith diwrnod i’r dyddiad marw.
Os byddwch yn rhoi gwybod am farwolaethau drwy’r post
Os byddwch yn rhoi gwybod am farwolaeth drwy’r post mae’n rhaid i chi gwblhau’r adran ‘Manylion y farwolaeth’ yn y pasbort a/neu’r dystysgrif gofrestru a’i ddychwelyd/dychwelyd i GSGP a ddylai ei chael/gael o fewn saith diwrnod i’r dyddiad marw.
Rhoi gwybod am anifeiliaid a laddwyd ar y daliad
Os caiff anifail ei ladd ar eich daliad gan filfeddyg neu weithredwr lladd-dy a’i gludo wedyn i ladd-dy i’w drin, mae’n rhaid i chi gwblhau’r adran ‘Manylion y farwolaeth’ yn y pasbort a’i anfon gyda’r anifail i’r lladd-dy. Rhaid i’r pasbort ddangos bod yr anifail wedi marw ar y fferm.
Os bydd llo heb ei gofrestru yn marw
Os bydd llo yn marw cyn iddo gael ei dagio, ni fydd angen i chi roi gwybod i GSGP ei fod wedi marw ond bydd yn rhaid i chi ddiweddaru eich cofnodion. Cofnodwch ddyddiad geni a dyddiad marw’r llo yn erbyn manylion y fam yng nghofrestr eich daliad.
Os bydd llo yn marw ar ôl iddo gael ei dagio ond cyn i chi wneud cais am basbort bydd yn rhaid i chi ddweud wrth GSGP ei fod wedi marw gan ddefnyddio un o’r dulliau hyn:
- defnyddio SOG Ar-lein neu rai pecynnau meddalwedd fferm cydnaws
- defnyddio llinell hunanwasanaeth SOG
- anfon y ffurflen cais am basbort gwartheg (CPP12) i GSGP unwaith y byddwch wedi cwblhau adrannau 2 a 3 (manylion yr anifail) ac adran 4 (manylion y farwolaeth)
Os bydd llo yn marw ar ôl iddo gael ei dagio a’ch bod wedi anfon y cais am ei basbort, cysylltwch â GSGP er mwyn ei hysbysu o’r farwolaeth.
Ni ddylech ailddefnyddio tagiau clust llo marw ar gyfer anifail arall.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod am farwolaethau
Efallai y caiff marwolaethau gwartheg na roddwyd gwybod amdanynt eu datgelu mewn archwiliad adnabod gwartheg.
Pan fydd anifail yn marw byddwch yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod am y farwolaeth o fewn saith diwrnod
- dychwelyd y pasbort i GSGP o fewn saith diwrnod
Gallech wynebu cosbau a gostyngiad trawsgydymffurfio i unrhyw gymorthdal rydych yn ei hawlio.
Gwaredu carcas
Pan fydd y carcas yn gadael eich daliad, ni fydd angen i chi rhoi gwybod am symudiad ‘oddi ar y daliad’.
Anifeiliaid y mae angen cynnal profion TSEau arnynt
Mae’n rhaid profi stoc drig am TSEau os ydynt:
- dros 48 mis oed a chawsant eu geni yn y DU neu yn un o’r gwledydd a restrir yn y tabl isod
- dros 24 mis oed a chawsant eu geni y tu allan i’r DU neu’r gwledydd a restrir yn y tabl
gwlad | cod y tag | gwlad | cod y tag | gwlad | cod y tag |
---|---|---|---|---|---|
Awstria | AT | Yr Almaen | DE | Malta | MT |
Gwlad Belg | BE | Groeg | EL | Yr Iseldiroedd | NL |
Cyprus | CY | Hwngari | HU | Gwlad Pwyl | PL |
Y Weriniaeth Tsiec | CZ | Iwerddon | IE | Portiwgal | PT |
Denmarc | DK | Yr Eidal | IT | Slofacia | SK |
Estonia | EE | Latfia | LV | Slofenia | SI |
Y Ffindir | FI | Lithwania | LT | Sbaen | Datganiad Amgylcheddol |
Ffrainc | FR | Lwcsembwrg | LU | Sweden | SE |
Gall fod yn anodd adnabod anifeiliaid a fewnforir sydd wedi’u haildagio, ond dangosir y tarddle ar y pasbort Prydain Fawr a fydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer yr anifail.
Yr unig eithriadau yw anifeiliaid sy’n marw ar Ynysoedd Sili, Ynys Wair, Ynys Enlli, Ynys Echni, Ynys Bŷr yng Nghymru ac ynysoedd penodol yn yr Alban, sydd wedi’u heithrio rhag profion TSE.
Os bydd anifail sy’n gorfod cael ei brofi am TSEau yn marw ar eich daliad, o fewn 24 awr i’r farwolaeth mae’n rhaid i chi drefnu i’r carcas gael ei ddanfon i safle samplu cymeradwy, fel y gellir cymryd sampl o fonyn yr ymennydd er mwyn profi am TSEau. Gallwch wneud hyn drwy:
- gysylltu â’ch casglwr stoc drig lleol
- defnyddio’r Cynllun Stoc Drig Cenedlaethol (NFSS), a gynhelir gan y Cwmni Stoc Drig Cenedlaethol (NFSCo); i gael gwybodaeth ffoniwch 0845 054 8888
- gwneud trefniadau i ddangos y carcas i safle samplu cymeradwy eich hun
Os byddwch yn danfon y carcas eich hun, bydd yn rhaid i chi wneud hyn o fewn 72 awr i farwolaeth yr anifail.
Pan gymerir y carcas i’w ddanfon i’r safle samplu, dylai un o’r canlynol fynd gydag ef:
- y slip torri i ffwrdd TSE o’r pasbort un dudalen
- cerdyn symud os oes gan yr anifail basbort ar ffurf llyfr seiciau
- dim dogfennaeth, os mai dim ond hysbysiad cofrestru sydd gan yr anifail
Wrth anfon dogfennau gyda charcas, dylech eu rhoi mewn amlen neu fag plastig clir.
Peidiwch ag anfon y pasbort na’r hysbysiad cofrestru gyda’r anifail. Mae’n rhaid i chi hysbysu GSGP o’r farwolaeth a dychwelyd y pasbort neu’r hysbysiad cofrestru fel y disgrifiwyd uchod.
Anifeiliaid nad oes angen cynnal profion TSEau arnynt
Mae’n rhaid i chi wneud un o’r canlynol:
- anfon y carcas i gwb cŵn hela neu iard gelanedd
- defnyddio eich casglwr stoc drig lleol
- defnyddio’r Cynllun Stoc Drig Cenedlaethol (NFSS) a gynhelir gan y Cwmni Stoc Drig Cenedlaethol (ffoniwch 0845 054 8888 i gael gwybodaeth)
Ni ddylech gladdu na llosgi carcasau ar eich daliad (oni bai bod safle llosgi ar eich daliad wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol).
Ym Mhrydain Fawr, yr unig eithriadau i’r gwaharddiad hwn yw’r ardaloedd anghysbell a nodwyd yn Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, Ynysoedd Sili ac Ynys Wair yn Lloegr ac Ynys Enlli, Ynys Echni ac Ynys Bŷr yng Nghymru.