Guidance

Rhoi gwybod am allforion gwartheg

Sut i gydymffurfio â rheoliadau adnabod gwartheg wrth allforio gwartheg o'r DU.

Mae’n rhaid i wartheg a allforir o’r DU gael eu cofrestru a’u tagio a rhaid iddynt fodloni meini prawf penodol. Mae’n rhaid i chi roi gwybod am achos o symud gwartheg a allforir fel y bydd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) yn cael y wybodaeth o fewn tri diwrnod i’r gwartheg gael eu symud.

Gofynion ar gyfer yr holl wartheg a allforir

Dim ond gwartheg sy’n bodloni’r meini prawf canlynol y gallwch eu hallforio:

  • gwartheg a aned neu a fewnforiwyd i’r DU ar 1 Awst 1996 neu ar ôl y dyddiad hwnnw
  • gwartheg sydd â phasbort dilys, llawn, â hanes cyflawn o symudiadau (CPP52 or CPP13)
  • gwartheg sydd â dau dag clust cymeradwy, sy’n dangos yr un rhif unigryw
  • gwartheg nad ydynt yn destun cyfyngiad ar symud buches gyfan neu anifail unigol

Mae’n rhaid i anifeiliaid hefyd fodloni gofynion penodol o ran iechyd a lles.

Ni chaniateir i wartheg a aned cyn 1 Awst 1996 fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddomestig ac ni ellir eu hallforio.

Gofynion tagio ychwanegol ar gyfer gwartheg sy’n cael eu hallforio neu’n cael eu symud o Brydain i Wlad yn yr UE neu Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021

O 1 Ionawr 2021, bydd angen i wartheg sy’n cael eu hallforio neu eu symud allan o Brydain i Wlad yn yr UE neu Ogledd Iwerddon gael eu nodi â chod gwlad y safonau technegol rhyngwladol (ISO), sef ‘GB’ ar gyfer y DU.

I weld y manylion llawn, ewch i: https://www.gov.uk/government/news/new-uk-wide-advice-on-ear-tags-for-livestock-exporters.

Sut i gofnodi allforion gwartheg byw

Wrth allforio gwartheg byw, mae’n rhaid i chi ddiweddaru cofrestr eich daliad a hysbysu GSGP o’r ffaith bod y gwartheg wedi’u symud oddi ar y daliad. Mae’n rhaid i’r wybodaeth gyrraedd GSGP o fewn tri diwrnod i’r symudiad.

Rhaid i chi hefyd gwblhau’r dogfennau a restrir isod a’u hanfon i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain.

  • Bovine-CON (consignor confirmation of loading) form
  • tystysgrifau iechyd
  • list of identification numbers (Bovine-SCH)

Gallwch ffonio’r Gwasanaeth (0345 050 1234) neu’r llinell gymorth ar gyfer ceidwaid gwartheg yng Nghymru (0345 050 3456) i ofyn am gopïau o’r rhain. Neu, gallwch e-bostio’r mewnflwch ymholiadau ar bcmsenquiries@rpa.gov.uk gan roi manylion y dogfennau sydd eu hangen arnoch.

Bydd angen i chi ddefnyddio Rhif eich Daliad (CPH) ar bob dogfen a anfonwch i GSGP. Os oes gennych ddaliad yng Nghymru neu Loegr a gymeradwywyd fel canolfan ymgynnull, bydd GSGP yn anfon labeli cod bar atoch ar gyfer eich Rhif Daliad ychwanegol.

Os oes gennych ddaliad yn yr Alban, bydd Rhif eich Daliad yn aros yr un peth. Defnyddiwch y rhif hwn a’r labeli cod bar cyfatebol i gofnodi symudiadau allforio gwartheg byw.

Published 8 July 2014